‘Hollol anhygoel, prydferthwch llwyr a champwaith o beirianneg sifil. Lle y dylai pawb yn ein gwlad ymweld â hi.’
Dewch i ddianc ac ymlacio yng Nghwm Elan wrth galon Bryniau Cambria yn y canolbarth. Fel hafan ar gyfer bywyd gwyllt a byd natur, mae ei 72 milltir sgwâr o olygfeydd bendigedig yn cynnig cyfleoedd i grwydro a mwynhau gweithgareddau awyr agored trwy gydol y flwyddyn.
Dewiswch eich antur yng Nghwm Elan i ddarganfod argaeau rhyfeddol, cefn gwlad godidog, llwybrau beicio a llwybrau cerdded.
Mae Cwm Elan yn ardal brydferth sy’n fwy deniadol byth diolch i’r argaeau a’r cronfeydd sy’n cyfuno â’r harddwch naturiol i greu tirwedd fyw hollol fendigedig. Mae’r golygfeydd yn odidog a fyddwch chi byth yn bell o fannau difyr.
• MANYLION PELLACH •Mae Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn swatio mewn lle bendigedig ag argae garreg o Oes Fictoria’n gefndir iddi. Ar agor bob dydd (heblaw dydd Nadolig) gyda chaffi sy’n croesawu cŵn, siop anrhegion, hyb beicio, desg groeso, arddangosfa, toiledau, wifi am ddim a pharcio hwylus.
• MANYLION PELLACH •Y lle delfrydol i gychwyn eich antur beicio yng Nghwm Elan. Dewiswch un o’n beiciau amrywiol i’w llogi neu dewch â’ch un eich hun. Mwynhewch reid hamddenol neu antur beicio mynydd cyffrous ar un o wyth llwybr ar draws yr ystâd. Mae’r amodau beicio’n berffaith i bobl o bob oedran a gallu.
• MANYLION PELLACH •Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw’r hawl i gau safle Cwm Elan yn llwyr neu’n rhannol neu ganslo gweithgareddau unrhyw bryd os yw’n credu bod yna amodau anaddas neu risgiau na ellir eu rheoli.
Mae diogelwch o’r pwys mwyaf yn ein holl weithgareddau, ond mae chwaraeon dŵr a gweithgareddau antur yn beryglus o ran eu natur, ac mae yna risgiau.
Rhaid i gwsmeriaid gydymffurfio â’r holl reoliadau diogelwch ac â chyfarwyddiadau tîm Cwm Elan bob amser.