Ein Stori
Wrth anadlu heddwch Cwm Elan i’ch enaid, mae hi’n gallu bod yn anodd dychmygu mor hir ac amrywiol yw hanes lle hwn.
Bedair mil o flynyddoedd yn ôl, ymgartrefodd pobl Oes y Cerrig yng nghoedwigoedd derw, bedw a chyll Cwm Elan. Wedyn daeth y Celtiaid a’r Rhufeiniaid i’w holynu.
Denodd adnoddau Elan lygaid y mwyngloddwyr – a chafodd copr, sinc ac yn arbennig plwm eu mwyngloddio hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ar ôl deng mlynedd o waith adeiladu, cwblhawyd y cyntaf o argaeau Cwm Elan ac fe’i hagorwyd gan y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra ym 1904. Un o ddyletswyddau swyddogol cyntaf y Frenhines Elizabeth oedd agor Argae Claerwen ym 1952.
Agorodd Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan ym 1985 (ac fe’i hehangwyd ym 1997). Mae’r ganolfan bellach yn hyb prysur ar yr ystâd lle gall ymwelwyr fwynhau lluniaeth yn y caffi, prynu cofroddion yn y siop, llogi beics o’r Hyb Beics, neu godi taflen am ein llwybrau cerdd.
Heddiw, mae Cwm Elan yn hafan i fywyd gwyllt a byd natur â 72 milltir o olygfeydd godidog yn cynnig cyfleoedd gydol y flwyddyn ar gyfer crwydro a gweithgareddau awyr agored.
Dewiswch eich antur yng Nghwm Elan…