Elan Valley - Welsh Water - Anturiaethau ar Dir Sych

Y Maes

Chwarae Antur

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Chwarae yn yr Awyr Agored


Os nad yw 180 cilomedr sgwâr o goetiroedd, dyfroedd a gweundiroedd yn ddigon i chi, mae gennym faes chwarae antur hefyd – lle diogel i’r rhai sy’n llawn egni redeg yn wyllt a mwyhau rhyddid yn yr awyr iach.

Gyda siglenni, llithrennau, fframiau dringo ac offer siglo, mae’r maes chwarae mewn lle delfrydol wrth ymyl y Ganolfan Ymwelwyr fel y gallwch gadw llygad barcud ar y plant wrth fwynhau diod o’r Caffi Cyflym, rhywbeth o’r caffi neu bicnic o gartref.

Mae chwarae yn yr awyr agored yn llesol i gorff ac enaid pobl ifanc a’r rhai sy’n teimlo’n ifanc, felly mae treulio amser yma’n fuddiol i bawb.

Galwch draw cyn neu ar ôl mwynhau heddwch a llonyddwch tir agored Cwm Elan, wnewch chi ddim difaru.

Dewiswch eich Antur ar Dir Sych


Beicio

Mae gan Gwm Elan amrywiaeth o lwybrau beicio o wahanol lefelau anhawster – a gallwch logi beics ac ategolion o’n Hyb Beicio.

• RHAGOR O FANYLION •

Siop Anrhegion

Galwch draw i’n Siop Anrhegion i brynu anrheg i rywun annwyl neu rhywbeth bach i gofio’ch ymweliad.

• RHAGOR O FANYLION •

Cerdded

Cwm Elan yw un o’r llefydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru i fynd am dro, gyda dros wythdeg milltir o hawliau tramwy pwrpasol.

• RHAGOR O FANYLION •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU