Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn croesawu Siôn Corn ac yn dathlu cynnau ein goleuadau Nadolig.
Mae nifer gynyddol o Anturiaethau eraill Dŵr Cymru i’w cael ar draws Cymru.
Mae pob un ym mherchnogaeth ac yng ngofal Dŵr Cymru i chi eu mwynhau. Maen nhw’n hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden, sy’n eich ailgysylltu â byd natur a’r dŵr. Mae’r rhain yn rhai o’r lleoliadau mwyaf bendigedig, maen nhw’n cynnig mynediad am ddim ac yn agored trwy gydol y flwyddyn.
Dewiswch eich Antur Dŵr Cymru nesaf.
Mae Dŵr Cymru’n gweithredu 91 cronfa ddŵr o bob maint, o 2 i 1,026 erw. Mae’r rhain yn cynnwys portffolio o Atyniadau Ymwelwyr o’r enw ‘Anturiaethau Dŵr Cymru’. Hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden ydyn nhw. Maen nhw’n ailgysylltu pobl â dŵr a’r amgylchedd wrth gynnal, amddiffyn a chyfoethogi gwerth ecolegol pob safle.
Dŵr Cymru yw’r mwyaf ond pump o ddeg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig Cymru a Lloegr. ‘Cwmni nid-er-elw’ yw Dŵr Cymru sy’n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo. Felly mae’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.
Wrth galon prydferthwch Dyffryn Gwy, cwta 20 milltir o Gaerdydd, Llyn Llandegfedd yw’r lle delfrydol i fwynhau chwaraeon dŵr, pysgota, cerdded, gwylio bywyd gwyllt a chael picnic. Y lle delfrydol i fynd â’ch ci am dro am fod croeso i gŵn fwynhau’r golygfeydd bendigedig o falconi’r bwyty neu orffwys eu pawennau yn y Caffi Coffi Cyflym.
Mae Llyn Llys-y-Frân yn cynnig dros 350 erw i ymwelwyr eu crwydro ar droed wrth fynd â’u cŵn am dro, ar gefn beic neu allan ar y dŵr. Mae’r safle’n agored trwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnig mynediad am ddim. Mae’r safle’n cynnig canolfan ymwelwyr a chaffi sydd wedi cael eu hailwampio, canolfan gweithgareddau awyr agored newydd sbon, llwybrau beicio sy’n igam-ogamu trwy’r goedwig a thrac sgiliau pympio newydd. Mae cawodydd, cyfleusterau newid ac ystafelloedd cyfarfod â golygfeydd bendigedig ar gael ar y safle hefyd.
Safle gwirioneddol arbennig â choedwig a physgodfa frithyll, cyfleusterau llogi beics, maes chwarae antur, canolfan ymwelwyr a chaffi â golygfeydd di-ben-draw o’r balconi. Mae Llyn Brenig yn gartref i weilch y dŵr prin sy’n nythu ar y safle rhwng Ebrill a diwedd Awst. Gyda 23km o lannau’n ymestyn o gwmpas un o ddyfroedd mewndirol mwyaf Cymru, hwn yw un o bysgodfeydd pen-dŵr gorau’r DU.
Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned leol i greu hyb ar gyfer iechyd a lles, wrth amddiffyn a chyfoethogi bioamrywiaeth y safle. Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn adnodd naturiol o bwys ecolegol sylweddol ac mae’n cwmpasu dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), y naill am ei ffwng cap cwyr a’r llall am yr adar sy’n treulio’r gaeaf yno. Mae sesiynau nofio dŵr agored yn rhan o’r rhaglen chwaraeon dŵr yng Nghronfa Ddŵr Llanisien, sy’n cynnwys hwylio, canŵio caiacio a rhwyf-fyrddio hefyd. Mae ein canolfan ymwelwyr deulawr newydd sbon yn cynnig golygfeydd godidog dros y cronfeydd ynghyd â phrofiad bwyd neilltuol.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag amryw o gymunedau a sefydliadau gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i greu hybiau ar gyfer hamdden, iechyd a lles. Gan gyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac ‘adferiad gwyrdd’ yng Nghymru.
Lleolir Cronfeydd Dŵr Cwm Lliedi ar gyfrion Llanelli yn Sir Gâr, ac maen nhw’n lle prydferth a phoblogaidd. Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi mabwysiadu’r safle’n ddiweddar yn rhan o gynllun mabwysiadu cymunedol arloesol.
Mae Cronfeydd Dŵr Lliw yn safle o brydferthwch naturiol eithriadol ac yn rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, un o’r ardalodd tirwedd o gymeriad arbennig sy’n diffinio Cymru. Mae caffi, siop fach a thoiledau ar y safle.
Llyn Alaw yw llyn dŵr croyw mwyaf Môn. Mae’r safle o ddiddordeb arbennig i adaryddwyr ac mae’n SoDdGA am yr adar sy’n treulio’r gaeaf yno, corhwyaid, hwyaid llydanbog a’r elyrch gwyllt.
Casgliad ehangaf y DU o bympiau ac injanau gweithredol o bob rhan o Sir Henffordd, y siroedd cyfagos a Chymru, yr enghreifftiau gweithredol olaf o’u math yw’r rhan fwyaf ohonynt.
Mae Llyn Brianne’n un o naw Safle Darganfod Awyr Dywyll o Safon Llwybr Llaethog ym Mynyddoedd Cambria, ac mae awyr y nos yno gyda’r mwyaf tywyll yn Ewrop.
Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn croesawu Siôn Corn ac yn dathlu cynnau ein goleuadau Nadolig.
Cyfarchion y tymor! Mwynhewch frecwast gyda Siôn Corn yng Nghaffi Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan