Prosiect Llynnoedd Cwm Elan - Elan Valley - Welsh Water

Prosiect

Llynnoedd Cwm Elan

Bargen Twf y Canolbarth

Yours to explore

Gan Dŵr Cymru

Beth yw Prosiect Llynnoedd Cwm Elan?


Dyluniwyd Prosiect Llynnoedd Cwm Elan i gryfhau’r ddarpariaeth twristiaeth gynaliadwy yn y Canolbarth, creu lleoliad o safon ryngwladol a hybu twf economaidd. Hwn yw prosiect angori portffolio Bargen Twf y Canolbarth o ran twristiaeth gynaliadwy.

Bydd Llynnoedd Cwm Elan yn trawsnewid profiad yr ymwelydd, yn creu ac yn diogelu swyddi, ac yn darparu cyfleoedd newydd i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant. Bydd y buddsoddiad yn cyfoethogi bioamrywiaeth ac yn lleihau’r effeithiau amgylcheddol trwy ddatblygiadau carbon isel a defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gyfrannu at siwrnai Dŵr Cymru i sero net o allyriannau.

Caiff y prosiect ei gyflawni wrth i gyllid gael ei ddiogelu.

Y Newyddion Diweddaraf


Mae asesiad marchnad ar y gweill gyda chyflenwyr dethol.

Mae’r cynlluniau ar gyfer ailddatblygiad y ganolfan ymwelwyr wedi mynd at yr awdurdod lleol.

• Cyngor Sir Powys •


Rydyn ni wedi paratoi dogfen gryno sy’n amlinellu elfennau allweddol y cynlluniau, gan gynnwys planiau llawr a gweddluniau.

• Crynodeb o’r Cynllun •


Hoffem glywed eich barn am y cynlluniau. Cliciwch ar y botwm isod i ddweud eich dweud – rydyn ni’n gwerthfawrogi eich adborth.

• Cliciwch i roi adborth ar ein cynlluniau •

Y Newyddion Diweddaraf


Mae’r cynlluniau ar gyfer ailddatblygiad y ganolfan ymwelwyr wedi mynd at yr awdurdod lleol.

Mae asesiad marchnad ar y gweill gyda chyflenwyr dethol.


• Cliciwch i roi adborth ar ein cynlluniau •

Cyfnodau’r Prosiect


Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi rhoi sêl bendith i’r cyllid ar gyfer rhan gyntaf y gwaith ar brosiect twristiaeth gynaliadwy [blaenllaw] Llynnoedd Cwm Elan.

Elan Valley Lakes Project Map

Pecyn Gwaith 1

£566k o gyllid y Fargen Twf yn rhan o fuddsoddiad o £1.4 miliwn.


Y Goedwig Law Geltaidd

Ehangu’r ardal sy’n cael ei hadfer fel Coedwig Law Geltaidd o 117Ha, mewn cydweithrediad ag RSPB Cymru

Ffilm am y Goedwig Law Geltaidd wedi ei lleisio gan Charlotte Church

Llwybr ymdrochi yn y goedwig, dehongliad a thaflen wybodaeth

Sesiynau gwirfoddoli mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan


Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan — dylunio’r datblygiad

Pecyn Gwaith 2

Ailddatblygu’r Ganolfan Ymwelwyr



Ehangu’r cyfleuster cyfredol er mwyn osgoi’r problemau gorbrysurdeb ar adegau brig

Arddangosfa a phlanetariwm newydd

Caffi mwy sydd wedi ei osod mewn ffordd sy’n sicrhau’r golygfeydd gorau posibl o’r argae a’r afon

Seddi awyr agored

Tai bach newydd, cyfleuster Lle Newid ac uwchraddio’r seilwaith dŵr gwastraff

Gwefrwyr ceir trydan a gwelliannau i’r maes parcio

Pecyn Gwaith 3

Subject To Funding


Ailddatblygu’r felin lifio



Canolfan gweithgareddau dŵr a thir sych newydd

Safle podiau eco a glampio graddfa fach

Uwchraddio’r llwybrau cerdded a beicio

Cysylltiadau ynni gwyrdd, cysylltiadau a phwyntiau

Llety encil

Beth yw Bargen Twf y Canolbarth?

Diogelwyd y Fargen yn 2022 pan llofnododd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ynghyd â Chyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys, gytundeb gwerth £110 miliwn.

Prif nod y fargen yw dod â ffyniant i’r rhanbarth trwy helpu i greu swyddi, cynyddu creadigrwydd, cyflawni uchelgeisiau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach, a throsoli buddsoddiad o’r sector preifat.

Beth yw Manteision Prosiect Llynnoedd Cwm Elan?

Bydd Prosiect Llynnoedd Cwm Elan yn helpu i wneud rhanbarth y Canolbarth yn atyniad allweddol i ymwelwyr, gyda chyfleusterau o safon ryngwladol.

Bydd y buddsoddiad yn helpu i adfer ac ehangu Fforest Law Geltaidd Elan, sy’n ecosystem hynod brin ac yn hafan ar gyfer bioamrywiaeth.  Gyda chymorth Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd ein cynllun i adfer y Fforest Law Geltaidd yn cysylltu’r darnau sydd ar wasgar ac yn ehangu’r fforest law.  Trwy hyn, gallwn ddiogelu a rheoli’r cynefinoedd gwerthfawr yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y prosiect yn trawsnewid profiad yr ymwelydd, yn creu ac yn diogelu swyddi, ac yn darparu cyfleoedd i gymunedau lleol gael hyfforddiant a dysgu sgiliau newydd.

Bydd buddsoddi mewn cyfleusterau a gweithgareddau newydd yn darparu cyfleoedd cynaliadwy am gyflogaeth leol trwy gydol y flwyddyn a thwf yn yr economi rhanbarthol.

Bydd y prosiect yn lleihau’r effaith amgylcheddol hefyd trwy ddatblygiadau carbon isel a defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gyfrannu at siwrnai Dŵr Cymru i gyflawni allyriannau sero net. Darperir cysylltiadau ynni gwyrdd â’r system hydro-bwer yng Nghwm Elan er mwyn cynorthwyo gweithrediadau twristiaeth cynaliadwy.

Cadwch lygad yn agored…

Caiff rhagor o wybodaeth ei chyhoeddi wrth i’r prosiect ddatblygu.


Dogfennau

DogfenFfeil / URLDisgrifiadDyddiadMaint Ffeil
Crynodeb o’r Cynllun i Ailddatblygu’r Ganolfan Ymwelwyr (Latest)EVL-VC-Dev-Summary-3.0.pdf (PDF)Crynodeb o’r Cynllun i Ailddatblygu’r Ganolfan Ymwelwyr15 Ebrill 2026784kb
CynlluniauLlawr Isaf (PDF)
Llawr Cyntaf (PDF)
Cynlluniau15 Ebrill 2026563-685kb

Archif

DogfenFfeil / URLDisgrifiadDyddiadMaint Ffeil
Crynodeb o’r Cynllun i Ailddatblygu’r Ganolfan YmwelwyrEVL-VC-Dev-Summary.pdf (PDF)Crynodeb o’r Cynllun i Ailddatblygu’r Ganolfan Ymwelwyr23 Mehefin 2025256Mb
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg (PDF)Datgloi £11.8m yn rhagor ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru wrth i’r prosiect cyntaf ddwyn siâp21 Mawrth 202545kb
Map Prosiect Cwm ElanMap Prosiect Cwm Elan (PDF)Cydrannau Prosiect Cwm Elan21 Mawrth 20252Mb
Yr Ymgynghoriad Cyn Gwneud CaisYr Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais (Web)Yr holl ddarluniau, adroddiadau a dogfennau ategol perthnasol i’w harchwilio a’u hadolygu.4 Medi 2024No Longer Live
Hysbysiad SafleHysbysiad-Safle (PDF)Hysbysiad am yr ymgynghoriad, trosolwg o’r cynigion a sut i ymateb i’r ymgynghoriad.4 Medi 2024655kb
Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais CynllunioFfurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais Cynllunio (PDF)Ffurflen i ymateb i’r ymgynghoriad.4 Medi 202474kb
Logo Mid Wales Tourism
Logo Dwr Cymru Welsh Water

Tŷ’r Peiriannydd a Bwthyn Pen y Garreg

• AM RAGOR O FANYLION •

Uwchraddio’r Llwybrau Cerdded a Beicio

• AM RAGOR O FANYLION •

Uwchraddio Ynni a Chludiant Gwyrdd

• AM RAGOR O FANYLION •

Beth yw Prosiect Llynnoedd Cwm Elan?


Buddsoddiad o tua £22m yw Prosiect Llynnoedd Cwm Elan, a’i nod yw cryfhau’r ddarpariaeth twristiaeth gynaliadwy yn y Canolbarth, creu lleoliad o safon ryngwladol a hybu twf economaidd.

Caiff y prosiect ei gyflawni mewn nifer o gamau wrth i gyllid gael ei ddiogelu.


Mae’r cydrannau allweddol yn cynnwys:

Planetariwm ac arddangosfa

Caffi ac estyniad i’r gegin

Cegin hyfforddi

Derbynfa a lle adwerthu newydd

Maes chwarae antur

Chwaraeon rhwyfo

Gweithgareddau tir sych

Digwyddiadau

Safle eco-bodiau glampio graddfa fach


Mae Prosiect Llynnoedd Cwm Elan yn ceisio cyllid gan Fargen Twf y Canolbarth, sy’n gatalydd ar gyfer adferiad a thwf economaidd yn y canolbarth.

Digwyddiadau i ddod

19-21
Aug
Planetariwm Dros Dro

Tîm Wybren Dywyll Cwm Elan yn dod â’r sêr i Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan gyda’u planetariwm dros dro.

• DARLLEN MWY •
11-25
Aug
Sesiynau Saethyddiaeth

Mae crefft draddodiadol saethyddiaeth yn ffordd wych o fwynhau hwyl i’r teulu.

• DARLLEN MWY •
13-27
Aug
Sesiynau Rhaffau Uchel

Platfformau, pontydd, rhwystrau anarferol, gwifren wib a naid i roi gwefr…

• DARLLEN MWY •
4-12
Aug   Sep
Sesiynau Caiacio gydag Arweinydd

Cyfle i fwynhau harddwch a heddwch yr ardal o’r dŵr…

• DARLLEN MWY •
12-13
Sep
Elan Fest 2026

Dau ddiwrnod bythgofiadwy o gerddoriaeth, natur a diwylliant lleol.

• DARLLEN MWY •
1-31
Jan   Dec
Llwybr Antur y Ddraig

Mae Llwybr Antur y Ddraig newydd Cwm Elan yn llwyth o hwyl!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR