Elan Valley - Welsh Water - Beicio

Anturiaethau

ar Ddwy Olwyn

Cwm Elan

Anturiaethau

ar Ddwy Olwyn

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Beicio yng Nghwm Elan


Mae Cwm Elan yn hyb ar gyfer hamdden a beicio mynydd yn y Canolbarth.

R’yn ni’n croesawu pob oedran a gallu – jyst neidiwch ar eich beic!

Llogi Beics

Mae feics o bob maint i oedolion a phlant, a threlars i feics hefyd.

Argymhellir bwcio ar lein cyn dod er mwyn osgoi siom, yn enwedig os ydych chi’n dod fel grŵp.

Beics i Oedolion

Bach Iawn: 5’0 – 5’3 / 152cm – 160cm

Bach: 5’3 – 5’5 / 160cm – 165cm

Canolig: 5’5 – 5’8 / 165cm – 172cm

Mawr: 5’8 – 6’2 / 172cm – 187cm

E-Feics

Bach – Canolig: 5’3 – 5’9 / 157cm – 175cm

Canolig – Mawr: 5-9 – 6’2 / 175cm – 187cm

Beics i Blant

Bach: 3’2 – 3’9 / 97cm – 114cm

Canolig: 3’9 – 4’4″ / 114cm – 132cm

Mawr: 4’4 – 4’9 / 132cm – 144cm

Trelars Plant: <45kg / 100lb

Argymhellir bwcio ar lein cyn dod er mwyn osgoi siom, yn enwedig os ydych chi’n dod fel grŵp.

Noder: rhaid dangos tystiolaeth pwy ydych chi adeg llogi, fel pasbort neu trwydded yrru. Mae’r holl amodau a thelerau llogi ar gael ar gais, a rhaid llenwi a llofnodi ffurflen i gydnabod eich bod wedi darllen yr amodau a’r telerau yma adeg llogi’r beic.

Yr Hyb Beicio

Mae’r hyb beicio drws nesaf i’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae gennym amrywiaeth o feics i blant ac oedolion, gan gynnwys e-feics a threlars i’w llogi. Mae gennym orsaf golchi beics i chi glirio’r holl fwd cyn troi am adref ar ddiwedd eich antur hefyd.

Dewis eich Llwybr Beicio Mynydd


Mae’r llwybrau beicio mynydd yn amrywio o Wyrdd (hawdd), i Las (cymedrol), Coch (anodd) a Du (caled).

Cliciwch am ganllaw i’r system graddio a’r cod lliw a ddefnyddir ar gyfer llwybrau trawsgwlad un trac. Mae beicio mynydd yn gallu bod yn beryglus ac mae risg sylweddol ynghlwm â’r peth. Reidiwch o fewn eich gallu bob tro.

Llwybrau Glas

Llwybr Elan

Crwydrwch y llwybr 29km yn ei gyfanrwydd neu ran ohono. Cyfle i deuluoedd, beicwyr newydd a rhai mwy profiadol a brwd i brofi’r rhan brydferth yma o’r wlad.

• MANYLION PELLACH •

Ant Hills

Mae’r llwybr cylchol rhwydd hwn o 9 cilomedr yn cychwyn o Raeadr ac yn troelli trwy lonydd hyfryd y canolbarth ac yn gorffen i lawr rhiw.

• MANYLION PELLACH •

Llwybrau Coch

O Amgylch Caban-coch

Llwybr byr (15 cilomedr), cymedrol sy’n mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban-coch a ddylai gymryd tua awr i’w gwblhau.

• MANYLION PELLACH •

Twyni Golff

Llwybr awr o hyd poblogaidd o anhawster cymedrol sy’n cynnwys disgyniad estynedig i lawr hen gwrs golff naw twll Rhaeadr.

• MANYLION PELLACH •

Gwersyll Rhufeinig

Mae’r llwybr 32 cilomedr cymedrol hwn yn cymryd tua thair i bedair awr i’w gwblhau ac yn cynnwys safle hynafol ei enw yn ogystal â bryniau agored a phedair cronfa ddŵr.

• MANYLION PELLACH •

Cylchdaith Nannerth

Mae’r llwybr 29 cilomedr cymedrol hwn yn cymryd tua thair awr gan eich arwain trwy rannau o ddyffryn Gwy yn ogystal â chwm Elan.

• MANYLION PELLACH •

Cylchdaith Dyffryn Gwy

Llwybr sy’n cynnwys bryniau agored, coetir brith a thir ffermio gweithredol. Dylai ei hyd o 19 cilomedr gymryd tua dwy awr…

• MANYLION PELLACH •

Llwybrau Du

Bwthyn Du

Llwybr technegol anodd o 30 cilomedr â dringfeydd mawr gan gynnwys Cwm Elan a Dyffryn Claerwen â’u golygfeydd godidog.

• MANYLION PELLACH •

Elan Epig

Pam dewis un llwybr yn unig pan allwch chi eu dilyn nhw i gyd? Mae’r llwybr anodd hwn yn cynnwys popeth sydd gan Gwm Elan i’w gynnig i feicwyr mynydd.

• MANYLION PELLACH •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU