Llefydd i aros - Canolbarth Cymru - Elan Valley - Welsh Water

Llefydd i Aros

Llety

yng Nghwm Elan

Yours to explore

Gan Dŵr Cymru

Gwyliau a Gwyliau Byr


Mae Cwm Elan yn lle bendigedig i ddianc rhag holl brysurdeb bywyd modern. Yn ogystal â bod oddi ar y grid i raddau helaeth, digon cyfyngedig yw’r gwasanaeth ffôn symudol a wifi ar ystâd hefyd. Mae’n rhoi’r cyfle i ymwelwyr ‘fynd all-lein’ ac ymhyfrydu’n llwyr yn rhyfeddodau’r dirwedd a bywyd gwyllt yr ardal.

Dyfarnwyd statws Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol i’r ystâd hefyd, sy’n ei gwneud yn lle delfrydol i wylio’r sêr.

A chofiwch, mae gwyliau neu wyliau byr wir yn rhoi’r cyfle i chi fanteisio ar y cyfleoedd bendigedig i fynd am dro neu feicio yng Nghwm Elan a’r Canolbarth.

Llety yng Nghwm Elan


Os ydych chi’n cynllunio gwyliau neu wyliau byr yn y Canolbarth, does yna’r un lle gwell i aros nac yma ar ystâd Elan!

Mae gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan amrywiaeth o fythynnod hunanddarpar wrth galon yr ystâd. Am arosiadau byrrach, gallwch fwynhau Tŷ ac Ystafell De Penbont  sy’n swatio wrth ymyl argae Pen-y-Garreg ac sy’n cynnig llety gwely a brecwast rhagorol 4-Seren-Croeso-Cymru,. Am ragor o fanylion, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Cwm Elan.

Mae’r llety arall sydd ar gael yn yr ardal cynnwys Gwesty Cwm Elan a adnewyddwyd yn ddiweddar a’r safle carafanau a gwersylla Elan Oaks . I’r rhai mwy anturus, mae’r Elan Valley Lodge yn cynnig gwyliau a gweithgareddau hamdden.

Llety yn y Canolbarth


Y tu hwnt i Gwm Elan, mae yna ddigonedd o lefydd i aros dros nos.

Mae’r gwefannau canlynol yn llefydd da i chwilio am westai, llety gwely a brecwast, llety hunanddarpar, safleoedd carafanio a gwersylla, safleoedd glampio, hostelau a llety byncws i’w bwcio.

Visit Mid Wales

Discover Rhayader – The Outdoors Capital Of Wales

Mid Wales My Way

Cambrian Mountains

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU