Lleolir Cwm Elan ym Mhowys yn y Canolbarth, cwpwl o oriau o Gaerdydd a Birmingham. Rhaeadr Gwy yw’r dref agosaf.
Yng Nghwm Elan mae Canolfan Ymwelwyr â chaffi a siop, ein Hyb Beicio lle gallwch logi beics, safleoedd picnic, toiledau, digonedd o leoedd parcio i geir, bysys a beics, maes chwarae antur, llwybrau cerdded a beicio, a llawer iawn mwy.
Dydd Llun i ddydd Sul, 9:00am – 5:00pm, Ebrill to Hydref
Dydd Llun i ddydd Sul, 10:00am – 4:00pm, Tachwedd to Mawrth
Dylid nodi ein bod ar gau ar Ddydd Nadolig.
Hyb i gyfarfod, ymlacio, bwyta ac yfed. Gyda chaffi, siop anrhegion ac ystafelloedd i’w llogi.
• AM FANYLION •Gallwch logi beics a threlars o’n Hyb Beicio a chael cyngor am yr amrywiaeth o lwybrau beicio sydd yna ar draws Cwm Elan.
• AM FANYLION •Mwynhewch ddiod braf, cacen gartref neu bryd poeth o’n bwydlen dymhorol flasus yng Nghaffi ein Canolfan Ymwelwyr.
• AM FANYLION •Cyfeirnod Grid y Ganolfan Ymwelwyr SN 928 646 (N52.2694 W3.5724)
Llywio a Lloeren: LD6 5HP
what3words (Y Ganolfan Ymwelwyr) /// earpiece.herds.nickname
O Raeadr Gwy, dilynwch y B4518 tua’r gorllewin allan o’r dref. Mae arwyddion sy’n dangos y troad chwith i’r Ganolfan Ymwelwyr ymhen tair milltir. Os ydych chi’n defnyddio offer llywio â lloeren, bydd y cod post LD6 5HP yn mynd â chi’n agos at y Ganolfan Ymwelwyr a’r maes parcio, ond ar ôl troi i’r chwith oddi ar y B4518, anwybyddwch unrhyw gyngor i groesi’r bont haearn dros yr afon. Yn hytrach, gyrrwch dros y grid gwartheg a bydd Ganolfan Ymwelwyr o’ch blaen. Wrth deithio tua’r gogledd i Raeadr Gwy ar yr A470, bydd eich offer llywio â lloeren yn ceisio mynd â chi trwy Bentref Llanwrthwl; nid yw’r ffordd yma’n addas i fysys neu gerbydau mawr am ei bod yn mynd â chi ar hyd lonydd gwledig cul. Am ffordd fwy uniongyrchol, ewch am Raeadr Gwy a throi i’r chwith wrth Dŵr y Cloc.
Mae’r orsaf drenau agosaf 8 milltir i ffwrdd yn Llandrindod ar reilffordd Calon Cymru sy’n rhedeg o’r Amwythig i Abertawe. Mae bysys ar gael – gweler llwybrau’r X47 a’r B57 am fanylion. Am ragor o fanylion, ewch i wefan Traveline Cymru. I gwblhau eich siwrnai i Gwm Elan gallwch ddefnyddio gwasanaeth Taxi Link S.P. Cars (Simon Price) – ffoniwch 01597 810666 gan roi o leiaf 2 awr o rybudd. Mae’r gwasanaeth yma ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae prisiau gostyngol ar gael.
Yn cysylltu â Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (sef Lôn Las Cymru sy’n rhedeg rhwng Caerdydd a Chaergybi), a Llwybr 825 (rhan o Gylch Maesyfed) yn Rhaeadr Gwy, mae Llwybr Cwm Elan yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol Rhif 81 (sydd ar agor mewn rhannau rhwng Aberystwyth a Wolverhampton) ac mae’n rhedeg trwy Gwm Elan ei hun. Ar ôl cyrraedd, un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o fwynhau golygfeydd a synau Cwm Elan yw ar ddwy olwyn. Ac yma, gallwch logi beic, e-feic neu drelar o’r hyb beicio, neu ddefnyddio’ch beic eich hun.
Mae taith ar hyd Ffordd Cambria’n ddewis poblogaidd i deithwyr. Siwrnai’r holl ffordd rhwng y gogledd a’r de yw hi ar hyd cefn mynyddig Cymru. Mae’n rhedeg dros 185 milltir (300km) o’r naill arfordir i’r llall. Gan ddilyn yr A470 i’r gogledd o Gaerdydd neu i’r de o Landudno, mae yna restr faith o brofiadau y gallwch eu mwynhau ar eich ffordd trwy galon Cymru. Mae’n gallu cymryd pump awr mewn car, ond y ffordd orau o’i phrofi yw aros a mwynhau’r rhyfeddodau sydd i’w gweld ar hyd y ffordd. Mae’r A44 o Gaerwrangon a’r A488 o Drefyclo’n llwybrau poblogaidd i Ffordd Cambria o Loegr.
Mae digonedd o le i barcio ar y safle. Mae mannau parcio i bobl anabl ar gael y tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr.
Bydd y tâl parcio o £3.00 yn ddilys ar gyfer holl feysydd parcio’r Ystâd trwy gydol y dydd.
Gall ymwelwyr rheolaidd brynu tocyn parcio blynyddol i un cerbyd am £35.00. Bydd hyn yn gadael i chi barcio’r cerbyd hwnnw ar y safle mor aml ag y mynnwch chi am flwyddyn gron.
Gall ymwelwyr dalu ag arian parod yn y ganolfan ymwelwyr neu dalu â cherdyn credyd/debyd gan ddefnyddio’r peiriannau. Gallwch drefnu lle parcio ymlaen llaw a thalu am barcio trwy ddyfais symudol hefyd gan ddefnyddio ap NexusPay-GroupNexus (y gallwch ei lawrlwytho gan ddefnyddio’r codau QR ar y safle).
Mae Dŵr Cymru Welsh Water am ddarparu cyfleusterau bendigedig i ymwelwyr eu mwynhau. Er mwyn i hyn barhau, mae angen i ni godi tâl am barcio yn ein hatyniadau ymwelwyr. Byddwn ni’n defnyddio’r incwm i ofalu am y safleoedd gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal i safonau rhagorol, ac i ddarparu amgylchedd glân a thaclus.
Mae dau bwynt gwefru i geir trydan ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan – cliciwch yma am fanylion.
Y Ganolfan Ymwelwyr
Mae parcio hwylus ar gael i bobl anabl wrth ymyl y Ganolfan Ymwelwyr.
Mae mynediad gwastad o’r rhan yma o’r maes parcio i’r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae toiledau hwylus ar gael sy’n addas i bobl mewn cadeiriau olwyn ac sy’n cynnig cymhorthion priodol ar gyfer amrywiaeth eang o anableddau.
Staff
Mae holl staff y ganolfan ymwelwyr wedi cael hyfforddiant Dementia- Gyfeillgar.
Cyfleusterau ar gyfer cŵn cymorth
Darperir powlenni dŵr.
Rhestr Gwobrau
Safle Dementia-Gyfeillgar y Gymdeithas Alzheimer.