Elan Valley - Welsh Water - Caffi

Lle i fwyta, yfed a

Mwynhau’r olygfa

yng Nghwm Elan

Lle i fwyta, yfed a

Mwynhau’r olygfa

yng Nghwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Y Caffi


Mwynhewch ddiod braf, cacen neu bryd poeth o’n bwydlen dymhorol.

R’yn ni’n falch o gael cynnig y cynnyrch Cymreig gorau. Mae ein bwydydd yn cael eu paratoi’n ffres ac mae dewisiadau llysieuol a diglwten ar gael.

Mae’r caffi’n gwerthu brechdanau, rolion cig moch neu selsig, tatws yn eu crwyn, paninis, pasteiod ac, wrth gwrs, te, coffi a chacennau. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw anghenion dietegol penodol eraill gennych.

Oriau Agor y Caffi


10.00am i 4.00pm

Uchafbwyntiau Eraill


Beicio

Mae gan Gwm Elan amrywiaeth o lwybrau beicio o wahanol lefelau anhawster – a gallwch logi beics ac ategolion o’n Hyb Beicio.

• AM FANYLION •

Siop Anrhegion

Galwch draw i’n Siop Anrhegion i brynu anrheg i rywun annwyl neu rhywbeth bach i gofio’ch ymweliad.

• AM FANYLION •

Cerdded

Cwm Elan yw un o’r llefydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru i fynd am dro, gyda dros wythdeg milltir o hawliau tramwy pwrpasol.

• AM FANYLION •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU