Cwm Elan yw un o’r llefydd mwyaf poblogaidd i fynd am dro yng Nghymru. Mae yna fynediad agored ar draws y rhan fwyaf o’r ystâd, a dros wythdeg milltir o hawliau tramwy dynodedig.
Darllenwch am ein llwybrau cerdded niferus isod, mae pob un yn cynnwys golygfeydd godidog!
Mae Llwybr Cwm Elan yn dipyn o ffefryn am fod ganddo lwybrau cadarn sy’n dilyn llwybr hen Reilffordd Cwm Elan. Mae’n cael ei ddefnyddio gan gerddwyr, marchogion a beicwyr, ac mae’n addas i bramiau a chadeiriau olwyn.
Am gyngor ar deithiau cerdded yn Elan, cysylltwch â’n Gofalwyr, neu galwch heibio i’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae teithiau gyda thywysydd ar gael trwy gydol y flwyddyn hefyd. Ewch i’n tudalen Digwyddiadau am fanylion digwyddiadau a Diwrnodau Agored yr Argae.
Mae tirwedd bryniau’r ystâd yn gallu bod yn her rhwng y twmpathau o laswellt porffor y gweunydd i ddarnau dwfn o figwyn, ac mae llwybrau defaid ym mhob man sy’n hawdd eu camgymryd am lwybrau tir uchel. Bydd angen rhai sgiliau llywio arnoch ac mae mapiau’r Arolwg Ordnans a chwmpawd yn hanfodol ar rai o’r llwybrau hirach.
Dylid nodi bod y gwasanaeth ffôn poced yn wael ar bob rhwydwaith yn yr ardal hon.
Peidiwch â mynd i’r ardaloedd sydd wedi eu hamgylchynu gan ffensys yng nghyffiniau’r ffermydd heb ganiatâd y ffermwr.
R’yn ni’n dwlu ar gŵn yng Nghwm Elan!
R’yn ni’n gofyn i chi fod yn gyfrifol wrth fynd â’ch anifail anwes am dro. Mae da byw yn crwydro’n rhydd ar ein hystâd, felly mae’n hanfodol cadw cŵn dan reolaeth ofalus ac ar dennyn.
I leihau’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â phobl yn dod i gysylltiad â baw cŵn, rydyn ni’n gweithredu polisi ‘fflic o’r ffordd’ ar ein llwybrau ni. Rhowch faw eich ci mewn bag ac ewch ag e adref gyda chi, neu ffeindiwch frigyn a rhowch fflic iddo fel ei fod yn glir o’r llwybrau a dan y perthi.
Gallwch ddefnyddio’r biniau o amgylch ein Canolfan Ymwelwyr i gael gwared ar faw cŵn. Plîs peidiwch â rhoi’r baw mewn bag a’i adael allan ar yr Ystâd. Mae gennym sawl safle o bwysigrwydd SoDdGA, ac mae’r plastig yn ymyrryd â’r ecosystemau bregus. Mae bagiau baw cŵn ar gael am ddim wrth dderbynfa’r Ganolfan Ymwelwyr os nad oes un gennych.