Prosiect Llynnoedd Cwm Elan - Elan Valley - Welsh Water

Cwm Elan

Coedwig Law Celtaidd

Yours to explore

Gan Dŵr Cymru

Coedwig Law Celtaidd


Mae coedwigoedd glaw Celtaidd yn gynefinoedd prin dros ben. Dim ond ar hyd arfordir gorllewinol y DU ac Iwerddon, lle mae’r amodau biohinsoddol yn ddelfrydol iddynt gyda glawiad uchel, aer pur a lleithder, y mae’r coedwigoedd hyn yn bodoli.

Cyfeirir at y coedwigoedd hyn fel coedwigoedd glaw Tymherus neu Derw Iwerydd hefyd, ac maen nhw’n gynefinoedd hanfodol bwysig ar gyfer bywyd gwyllt.


Mae Cwm Elan o fewn y parth coedwigoedd glaw tymherus, ac mae coetiroedd yr ardal ymysg y pwysicaf yn Ewrop. Wedi eu dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), maen nhw’n cynnal cyfoeth o rywogaethau prin a rhai sydd dan fygythiad.

Fel ‘coetiroedd hynafol lled-naturiol’, y dderwen ddigoes yw’r rhywogaeth drech.


Coetiroedd Gwerthfawr sydd mewn Perygl

Mae Dŵr Cymru a’i bartneriaid yn cydweithio i amddiffyn yr ecosystemau gwerthfawr yma.

Prosiect Ehangu’r Fforest Law Geltaidd Cwm Elan

Mae Dŵr Cymru ac RSPB Cymru, gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed, yn cydweithio i amddiffyn a chyfoethogi coetiroedd Elan trwy ehangu’r cydrannau o goedwigoedd glaw Celtaidd, adfer nodweddion y coetiroedd hynafol, a darparu cyfleoedd gwirfoddoli ac addysg newydd ar gyfer y gymuned leol.

Elfen allweddol o’r prosiect yw cysylltu’r blociau ysbeidiol o goetiroedd llydanddail ar hyd ymyl deheuol cronfa ddŵr Caban Coch er mwyn creu un cydran pori gynaliadwy a chaniatáu ar gyfer ehangiad naturiol y Coedwigoedd Glaw Celtaidd ar draws tua 5km o dir.

Y weledigaeth yw sefydlu un coedwig law Geltaidd fawr, ag ecosystem gyfoethog o goetir Derw Iwerydd sy’n cynnal amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt pwysig ac yn darparu dalgylch dŵr yfed gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Rhoddwyd statws Coedwig Genedlaethol Cymru i goedwigoedd y Cnwch a’r Gro yn hydref 2024 i gydnabod y ffaith eu bod yn cael eu rheoli’n dda ac yn darparu gwerth gorau; ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y grant TWIG.

Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE

Partneriaeth rhwng Dŵr Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, RSPB Cymru, Coed Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru yw Prosiect Coedwig Law Geltaidd LIFE.

Nod y prosiect yw gwella cynefinoedd planhigion is fel mwsoglau a llysiau’r afu o fewn y coetiroedd hyn trwy daclo problem y rhywogaethau goresgynnol. Ar ôl canfod bod y Rhododendron Ponticum a’r Sbriws Sitca’n fygythiadau sylweddol iddynt, mae’r ffocws bellach ar glirio’r rhain o’r ystâd i gyd.

Nod arall yw cael gwared ar y glasbrennau dwys toreithiog sy’n tyfu yn yn yr ardaloedd hyn er mwyn caniatáu i’r coed aeddfed oroesi a gadael yr heulwen i mewn. Teneuo yw’r enw ar hyn, a’r nod yw agor canopi’r coed er mwyn denu adar fel telor y coed, y tingoch a’r gwybedog brith.

Mae’r prosiect yn datblygu rheolaeth weithredol ar y coetir hefyd, ac mae hyn yn cynnwys cyflwyno anifeiliaid trymach fel gwartheg i bori ynddynt at ddibenion cadwraeth, er mwyn rheoli rhywogaethau fel mieri a rhedyn gan hybu bioamrywiaeth planhigion is ac ardyfwyr yn benodol.

Gellir cael rhagor o fanylion am y prosiect ar wefan Coedwig Law Geltaidd.

Prosiect Llynnoedd Cwm Elan

Mae adferiad Coedwigoedd Glaw Cwm Elan yn gydran ecolegol sylweddol o Brosiect Llynnoedd Cwm Elan sy’n ceisio cyllid trwy Fargen Twf y Canolbarth sy’n gatalydd ar gyfer adferiad a thwf economaidd yng Nghanolbarth Cymru.

Digwyddiadau i ddod

29
Nov
Cynnau Goleuadau’r Nadolig

Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn croesawu Siôn Corn ac yn dathlu cynnau ein goleuadau Nadolig.

• DARLLEN MWY •
19-24
Dec
Brecwast gyda Siôn Corn

Cyfarchion y tymor! Mwynhewch frecwast gyda Siôn Corn yng Nghaffi Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan

• DARLLEN MWY •
1-31
Jan   Dec
Llwybr Antur y Ddraig

Mae Llwybr Antur y Ddraig newydd Cwm Elan yn llwyth o hwyl!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR