Elan Valley - Welsh Water - Lleoliad y Briodas

Priodas

eich Breuddwydion

yng Nghwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Man Priodi eich Breuddwydion yng Nghwm Elan


Os ydych chi’n chwilio am le unigryw i gynnal priodas yng Nghymru, mae Cwm Elan yn lleoliad bythgofiadwy i fwynhau seremoni eich breuddwydion.

Dywedwch ‘Gwnaf’ ym mhrydferthwch cefn gwlad Cymru, gydag argae eiconaidd Pen y Garreg yn gefndir godidog i’ch diwrnod arbennig.


• CYMERWCH YN EIN CYSTADLEUAETH YMA •

Pam dewis priodi yng Nghwm Elan?

Seremonïau priodas yng nghanol dyfroedd tawel a bryniau hardd

Defnydd unigryw o’r Tŵr hanesyddol o Oes Fictoria ar gyfer profiad hudolus

Opsiynau hyblyg o ran y seremoni, o’r rystig i’r traddodiadol

Cynllunio wedi ei bersonoleiddio er mwyn sicrhau bod eich diwrnod yn adlewyrchu eich steil a’ch gweledigaeth


Lleoliad y Briodas – Y Tŵr o Oes Fictoria

Dychmygwch gerdded i lawr trwy oriel fewnol yr argae i briodi yn Nhŵr hudolus Pen y Garreg o Oes Fictoria. Wedi ei oleuo gan ffenestri sy’n edrych i lawr y llif o’r argae, mae’r lle unigryw hwn yn lle hollol hudolus i gynnal eich seremoni.

Priodasau wedi eu Teilwra

Dim ots ai priodas rystig ar lan y llyn sydd gennych mewn golwg, seremoni anffurfiol mewn welis, neu ddigwyddiad mwy clasurol a gosgeiddig, mae’r tîm yng Nghwm Elan yn arbenigo mewn teilwra priodasau i greu atgofion bythgofiadwy yn un o leoliadau mwyaf ffotogenig Cymru.

Priodasau Wedi eu Hysbrydoli gan Fyd Natur

I gydategu’r tirweddau naturiol, gallech ddefnyddio trefniadau blodau mewn lliwiau naturiol meddal fel gwyn a gwyrdd. Ond rydyn ni’n annog parau i bersonoli eu priodasau felly beth am adio fflach o liw, â blodau llachar neu drefniannau arbennig i adlewyrchu eich personoliaethau chi?

Dechreuwch Gynllunio eich Priodas yng Nghwm Elan Heddiw


Dysgwch sut y gall harddwch naturiol a hanes Cwm Elan wneud eich diwrnod yn un i’w gofio. Cysylltwch â ni i drefnu taith, holi am ddyddiadau a dechrau eich siwrnai i briodi heddiw.

• EBOST •

Arlwyaeth

Lle golau braf yn ein canolfan ymwelwyr yw’r caffi. Mae’n edrych allan dros Afon Elan islaw Caban Coch.

• DARLLENWCH MWY •

Y Wledd Briodas

Mae Gwesty a Sba’r Metropole yn gweithio mewn partneriaeth â Chwm Elan fel lle i gynnal gwledd briodas gydag opsiynau arlwyo a diodydd ar gyfer hyd at 300 o westeion.

• DARLLENWCH MWY •

Llety i Westeion

Os ydych chi’n chwilio am lety ar gyfer gwesteion eich priodas, mae gan Westy a Sba’r Metropole, sydd cwta 25 munud i ffwrdd mewn car, 109 o ystafelloedd gwely ensuite.

• DARLLENWCH MWY •

Cyrraedd mewn Steil

Teithiau Ceffyl a Throl Ozzy – Gwasanaeth cerbydau a dynnir gan geffylau yn Llandrindod.

• DARLLENWCH MWY •

Ffotograffiaeth

Anne Seymour

Blodau Priodas

Hollies Floral Design

Hitched.co.uk

Digwyddiadau i ddod

29
Nov
Cynnau Goleuadau’r Nadolig

Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn croesawu Siôn Corn ac yn dathlu cynnau ein goleuadau Nadolig.

• DARLLEN MWY •
19-24
Dec
Brecwast gyda Siôn Corn

Cyfarchion y tymor! Mwynhewch frecwast gyda Siôn Corn yng Nghaffi Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan

• DARLLEN MWY •
1-31
Jan   Dec
Llwybr Antur y Ddraig

Mae Llwybr Antur y Ddraig newydd Cwm Elan yn llwyth o hwyl!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR