Cyfle i fwynhau harddwch a heddwch yr ardal o’r dŵr…
Byddwn ni’n dirwyn tymor yr haf i ben â gŵyl penwythnos arbennig sy’n dathlu popeth sy’n gwneud Cwm Elan yn lle hynod.
Casglwch eich teulu a’ch ffrindiau ynghyd ar gyfer Elan Fest 2026 – dau ddiwrnod bythgofiadwy o gerddoriaeth, natur a diwylliant lleol.
Bydd mynediad am ddim i brif ran yr ŵyl yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, ond codir tâl bach am rai gweithgareddau.
DYDD SADWRN
Mwynhewch gerddoriaeth fyw gan gerddorion a grwpiau lleol. Y perfformwyr i’w cadarnhau.
Yn cynnwys
Owen Shiers
Marc Harpham
Kidd Raven
The Outlaws Of Babylon
DYDD SUL
Rhowch gynnig arni gyda’ch ci i weld ai nhw fydd yn ennill coron Brenin neu Frenhines y Cwm.
DYDD SADWRN
Byddwn ni’n agor drysau un o’n hargaeau eiconaidd byd-enwog.
DYDD SUL
Ymgollwch yn y foment mewn dosbarth ioga ar blatfform canolog argae Pen y Garreg.
DYDD SUL
Ymunwch â Marc Harpham, Ceidwad Dyffryn Elan a dysgwr Cymraeg, am daith gerdded dywys drwy Goedwig Penbont a thu mewn i Argae Pen y Garreg.
DYDD SADWRN
Camwch i mewn i weld y sêr a dysgu am ein dynodiad fel Parc Wybren Dywyll.
DYDD SADWRN
Cyfle i fwynhau harddwch a heddwch yr ardal o’r dŵr. Taith ar y gronfa yng nghwmni hyfforddwr â digonedd o hanes lleol.
DYDD SUL
Mae crefft draddodiadol saethyddiaeth yn ffordd wych o fwynhau hwyl i’r teulu.
Porwch trwy’r stondinau cynnyrch lleol a fydd yn cynnwys celf, crefftwaith a bwydydd blasus.
Llwybr Antur y Ddraig, Chirpy Challenge Trail, Coedwig Cnwch Llwybr Glas, Coedwig Cnwch Llwybr Oren and Coedwig Cnwch Llwybr Coch
Cyfle i fwynhau harddwch a heddwch yr ardal o’r dŵr…