Ffair Coedwig Elan - Elan Valley - Welsh Water

Y Fforest Law Geltaidd

Ffair y Goedwig

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

29 May

Ffair Coedwig Elan

Dathlwch brydferthwch ein Coedwigoedd Celtaidd!

Mae mynediad am ddim i’r ffair undydd yma sy’n cynnwys ffair grefftau a bwyd gyda chynhyrchwyr lleol, a stondinau gwybodaeth gan elusennau a sefydliadau lleol. Bydd cyfle hefyd i fynd am dro o gwmpas Coedwig y Cnwch yng nghwmni arbenigydd, a mwynhau ymdrochi yn y goedwig ac ioga.

Prosiect saith mlynedd wedi ei ariannu gan Natura 2000 a Life yw Prosiect y Fforest Law Geltaidd a Life, a’i nod yw adfer yr ardaloedd tameidiog o’r Fforestydd Glaw Celtaidd sydd, yng Nghwm Elan, yn frith o Goed Derw Digoes yr Iwerydd sy’n cynnal rhywogaethau pwysig o fwsoglau, cen a rhedyn.

Ceir mynediad am ddim i Ffair y Goedwig, ac nid oes angen bwcio (nid yw hyn yn cynnwys Ymdrochi yn y Goedwig ac Ioga). E-bostiwch rangers.elan@dwrcymru.com am ragor o fanylion.

Dewch i fwynhau:

Stondinau Gwybodaeth

Dewch i sgwrsio gydag amryw o elusennau a sefydliadau sy’n gysylltiedig â Phrosiect y Goedwig Law Geltaidd a phrosiectau eraill yng Nghwm Elan, neu rhowch gynnig ar y gweithgareddau sydd ar gael i blant.

Daniel Laws

Cerddoriaeth fyw gan Daniel Laws. Mae’n defnyddio rhythmau Celtaidd, gwerin draddodiadol, gwerin wledig, blws a Cajun i ddarparu cefndir lliwgar i’w ganeuon a’i alawon.

Taith gerdded

Dewch am dro trwy Goedwig y Cnwch gyda’r arbenigydd Julia Harrison o’r RSPB, a mwynhewch ddysgu am fywyd gwyllt, byd natur a’r gwaith sy’n cael ei wneud yno i’w cynnal nhw.

Stondinau Bwyd a Chrefftau

Archwiliwch waith rhai o’n cynhyrchwyr lleol gan gynnwys siocledi moethus, gemwaith, serameg, te a mwy.

Ymdrochi yn y goedwig ac ioga

Ymunwch â Gabrielle wrth iddi’ch tywys trwy symudiadau Ioga Ysgafn ac Ymdrochi yn y Goedwig yn ein coedwig Geltaidd hynafol. Ymgysylltwch â’ch corff ac â’r goedwig. Tawelwch eich meddwl a ymgollwch yn eich system nerfol barasympathetig; ac fe welwch eich gwir hunan. Bydd cyfarwyddiadau syml yn eich helpu chi i gysylltu’n ddwfn â’ch synhwyrau wrth ymgolli ym myd natur. Dim ond angen dod a bod sydd yna ar gyfer y sesiwn samplo yma. (Gwisgwch ar gyfer y tywydd ar y diwrnod, dewch â diod o ddŵr, a chroeso i chi ddod â blanced/clustog fach i eistedd). Am fanylion, e-bostiwch Gabrielle yn: g.coope@hotmail.co.uk neu i fwcio ar lein…

• BWCIO NAWR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU