Ymunwch â ni am daith dywys o gwmpas Pentref Elan cyn dychwelyd i’r Ganolfan Ymwelwyr am De Cymreig, a fydd yn cynnwys te, Bara Brith a Phice ar y Maen.
Dewch am dro trwy Goedwig y Cnwch i Bentref Elan, gan ddysgu am hanes y pentref a’r argaeau wrth fwynhau golygfeydd godidog Cwm Elan. Ac ar ddiwedd y daith bydd Te Cymreig blasus yn y Ganolfan Ymwelwyr. Bydd y daith yn cymryd rhwng 90 munud a dwy awr, a bydd Te am 3.30pm.
2pm – 4.30pm
£7.95 i oedolion, £4.95 i blant (o dan 12 oed).
Argymhellir bwcio. Bydd bwcio’n cau tridiau cyn y digwyddiad.