Ymunwch â’n gofalwyr gwybodus am daith gerdded dwy awr o hyd ar hyd llwybr Nant y Gro yng Nghwm Elan. Bydd y daith yn adrodd hanes enwog Nant y Gro a chewch fwynhau golygfeydd godidog dros gronfa ddŵr Caban Coch ar hyd y ffordd.
Mae’r daith tua 5km o hyd ac mae’n dilyn llwybrau a bryniau agored. Mae’n gallu bod yn ymestynnol mewn mannau gyda nifer o risiau a dringfa serth i fyny’r bryn. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded a dillad diddos.
Cynhelir yr achlysur rhad ac am ddim yma dydd Iau, 13 Ebrill, a bydd yn dechrau am 1pm. Bwciwch yn gynnar fel na chewch siom.