Mae hi’n amser cyffrous i ymuno â ni am yrfa yn Dŵr Cymru.
Dros y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn buddsoddi yn ein canolfannau ymwelwyr er mwyn gwella’r cyfleusterau a’r arlwy ar gyfer ein cwsmeriaid. Rydyn ni’n parhau i gyflwyno ein rhaglenni gwella ar gost o filiynau ar draws ein safleoedd, ac yn cynllunio cyfleusterau hamdden newydd ar gyfer y dyfodol.
Ein huchelgais yw creu dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein hatyniadau ymwelwyr fel hybiau ar gyfer mwynhad, iechyd a lles yr ymwelwyr, gan ailgysylltu pobl â’n hamgylchedd prydferth.
33 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus)
Cynlluniau tâl amrywiol (ni fydd eich band cyflog yn newid, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech gael cynnydd cynyddrannol o fewn eich band a chymhelldal blynyddol)
Cyfraniadau cyflogwr uwch at eich pensiwn – Cyfraniad cyflogwyr o hyd at 11%
Cyfleoedd i ddatblygu, gan gynnwys y cyfle i ymgeisio am gyllid ar gyfer hyfforddiant a rhaglenni coetsio a mentora
Gostyngaidau ar aelodaeth o gampfa ac yn siopau’r stryd fawr
Cynllun beicio i’r gwaith
Parcio am ddim ar ein holl safloedd.
Disgownt yn holl ganolfannau a siopau anrhegion atyniadau ymwelwyr Dŵr Cymru
Cynllun prydlesu car
Cynllun Iechyd Arian-yn-ôl
Rhaglen cymorth i weithwyr ar gyfer gweithwyr a’u teuluoedd uniongyrchol
Rydyn ni’n denu dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’n pedair canolfan ymwelwyr allweddol yn rhai o leoliadau prydferthaf Cymru.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau a gweithgareddau, gan gynnwys chwaraeon dŵr, beicio mynydd, pysgota, cerdded, a phaned a phryd bendigedig yn ein bwytai wrth fwynhau rhai o olygfeydd gorau Cymru. Mae ein canolfannau ymwelwyr yn cynnig cyfle unigryw i ni gysylltu â’n cwsmeriaid a’n hymwelwyr mewn amgylchedd prydferth, wrth ategu hunaniaeth ein brand a’n model busnes unigryw. Rydyn ni’n falch o’r rôl bwysig y mae ein canolfannau ymwelwyr yn ei chwarae wrth gyflawni ein huchelgeisiau o ran addysg, cadwraeth a bioamrywiaeth.
Mae beth rydyn ni’n ei wneud yn Dŵr Cymru yn hynod o bwysig – rydyn ni’n cyflenwi tair miliwn o gwsmeriaid â dŵr diogel a glân, yn mynd â’u dŵr brwnt i ffwrdd ac yn helpu i amddiffyn ein hamgylchedd prydferth.
Mae hi’n gyfrifoldeb a hanner ac mae angen i ni ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd. Mae’r ffaith taw ni yw’r unig gwmni dŵr nid-er-elw yn y diwydiant dŵr yn sicr yn ddechrau da. Mae’n golygu bod pob un geiniog a wnawn yn mynd yn ôl i ofalu am eu dŵr a’u hamgylchedd, yn hytrach na mynd i bocedi cyfranddeiliaid.