Elan Valley - Welsh Water - Hanes Nghwm Elan

Hanes

Yr Argaeau

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Hanes

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, roedd Birmingham, fel sawl dinas arall yn y DU, yn gweld twf anferth yn ei phoblogaeth wrth i bobl symud o gefn gwlad i’r dinasoedd i chwilio am waith.

Er bod tair afon yn y ddinas, doedden nhw ddim yn ddigon mawr i ddarparu cyflenwad o digonol o ddŵr yfed glân ac osgoi’r afiechydon oedd yn cael eu lledu gan y dŵr, fel colera a theiffoid. Roedd angen dod o hyd i ateb.

“Wells or Wales” oedd y pennawd papur newydd ar y pryd. Dewisodd Corfforaeth Birmingham adeiladu cyfres o argaeau yng Nghwm Elan i gyflenwi dŵr yfed ffres ar gyfer y ddinas. Dewiswyd Cymoedd Elan a Chlaerwen am dri phrif reswm, sef bod:

– 1836mm o law y flwyddyn yn disgyn yma, o gymharu â 660mm yn Birmingham.

– Y tirweddau rhewlifol â dyffrynnoedd dwfn a llydan o gerrig llaid anhydraidd yn berffaith i storio dŵr.

– Tŵr y Foel (lle mae dŵr yn cael ei godi wrth argae’r Garreg Ddu) 52m yn uwch na Chronfa Ddŵr Frankley, sy’n golygu ei fod yn gallu teithio trwy rym disgyrchiant yn llwyr.


Pasiwyd Deddf Seneddol ym 1892 oedd yn caniatáu i Gorfforaeth Birmingham brynu 72 milltir sgwâr o Gymoedd Elan a Chlaerwen. Dechreuodd y gwaith y flwyddyn ganlynol ym 1893.

Bu rhaid i 100 o ddeiliaid symud, gydag ond y tirfeddianwyr yn derbyn iawndaliadau. Dymchwelwyd llawer o adeiladau: y ddau dŷ gwledig Cwm Elan a Nantgwyllt yn ogystal â 44 o dai i gyd, gan gynnwys 18 o ffermydd, ysgol ac eglwys a gafodd ei disodli gan y gorfforaeth fel Eglwys Nantgwyllt. Adeiladwyd rheilffyrdd er mwyn cludo’r gweithwyr a miloedd o dunelli o ddeunydd adeiladu bob dydd. Adeiladwydpentref o gytiau prenyn unswydd ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithwyr ar safle presennol Pentref Elan.

Y cam cyntaf oedd adeiladu pedwar argae a hanner: sef Caban Coch, Garreg Ddu, Pen y Garreg a Chraig Goch yng Nghwm Elan, a gosod sylfeini Dol y Mynach yng Nghwm Claerwen. Cafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Gorffennaf 1904, a’i agor yn swyddogol gan y Brenin Edward VI a’r Frenhines Alexandra.

Fe fu oedi ar adeiladu’r ail ran o’r argaeau oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Dechreuwyd ar y gwaith ym 1946, a golygodd y cynnydd mewn peirianneg y gellid adeiladu un argae mawr yn hytrach na thair llai. Adeiladwyd argae Claerwen rhwng 1946 a 1952 ac fe’i hagorwyd gan y Frenhines Elizabeth II ym mis Hydref 1952 ar ei hymweliad swyddogol cyntaf â Chymru fel Brenhines.


Gweithdy oedd yr ardal o amgylch y Ganolfan Ymwelwyr yn wreiddiol (os edrychwch chi i fyny yn y neuadd arddangos a’r siop anrhegion, fe welwch chi’r pwlis a’r cadwyni gwreiddiol). Fe agorodd fel Canolfan Ymwelwyr ym 1985, cafodd yr adeilad ei ehangu ym 1997, ac fe’i hadnewyddwyd yn 2020.

Yr Argaeau


Mae saith argae yng nghymoedd Elan a Chlaerwen, ac mae gan bob un ohonynt eu nodweddion a’u hanesion ei hun.

Argaeau Cwm Elan

Caban Coch

Yr argae cyntaf, pum munud ar droed o’r Ganolfan Ymwelwyr.

• AM FANYLION •

Garreg Ddu

Yr argae suddedig, un filltir o’r Ganolfan Ymwelwyr.

• AM FANYLION •

Pen y Garreg

Yr argae canol, y gallwch gerdded drwyddo.

• AM FANYLION •

Craig Goch

Yr argae uchaf, a’r un y tynnir y nifer fwyaf o luniau ohono..

• AM FANYLION •

Nant y Gro

Yr argae hynaf, a adeiladwyd i ddarparu dŵr ar gyfer y gweithwyr.

• AM FANYLION •

Argaeau Cymoedd Claerwen

Dol y Mynach

Yr argae ar ei hanner.

• AM FANYLION •

Claerwen

Yr argae mwyaf a mwyaf newydd ar yr ystâd..

• AM FANYLION •

Digwyddiadau i ddod

29
Nov
Cynnau Goleuadau’r Nadolig

Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn croesawu Siôn Corn ac yn dathlu cynnau ein goleuadau Nadolig.

• DARLLEN MWY •
19-24
Dec
Brecwast gyda Siôn Corn

Cyfarchion y tymor! Mwynhewch frecwast gyda Siôn Corn yng Nghaffi Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan

• DARLLEN MWY •
1-31
Jan   Dec
Llwybr Antur y Ddraig

Mae Llwybr Antur y Ddraig newydd Cwm Elan yn llwyth o hwyl!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR