Gwaith Coedwigaeth Gwaelod y Rhos
Ionawr a Chwefror 2026
Yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024, cafodd llawer o’r coed yng nghoedwig Gwaelod y Rhos i’r de i Gronfa Ddŵr Pen y Garreg eu difrodi gan wyntoedd cryfion. Nawr mae angen cyflawni gwaith dymchwel a theneuo, a chludo’r pren i’r melinau llifio lleol.
Bydd y gwaith yma’n golygu bod mwy o draffig nag arfer yn yr ardal wrth i’r lorïau pren fynd a dod i’r safle. Os ydych chi’n teithio o gwmpas ystâd Cwm Elan, cofiwch gymryd gofal arbennig ar y ffyrdd.
Bydd yna gyfyngiadau dros dro ar fynediad i’r cyhoedd at ddibenion diogelwch gweithredol a phentyrru coed. Bydd y cyfleusterau canlynol ar gau rhwng nawr a diwedd y gwaith:
- Maes Parcio Gwaelod
- Cilfan Penbont
Ar ôl cludo’r holl bren i ffwrdd, byddwn ni’n ailblannu’r ardal gyda rhywogaethau o goed llydanddail a brodorol yn bennaf. Bydd hyn yn helpu i ehangu ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd, yn cynorthwyo ein bywyd gwyllt allweddol ac yn hybu adfywiad naturiol ar draws y safle.
Charlotte Church yn lleisio ffilm newydd am Gwm Elan
23 Hydref 2025
Tra bod Charlotte Church yn hoelio sylw gwylwyr ar The Celebrity Traitors ar hyn o bryd, mae Cwm Elan yn llawn cyffro i ddatgelu ffilm fer newydd sy’n dathlu harddwch Cwm Elan, wedi ei leisio gan lais angylaidd Charlotte Church.
Wedi’i ffilmio dros gyfnod o flwyddyn er mwyn dangos harddwch newidiol Cwm Elan drwy’r tymhorau, mae’r ffilm pymtheg munud ryfeddol hon yn cynnig archwiliad o hanes argaeau Cwm Elan a’i Goedwig Law Geltaidd. Mae’n dangos yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n byw yng Nghwm Elan a’r doreth o blanhigion ac anifeiliaid ar draws yr ystad. Bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad lansio preifat ddydd Gwener, 24 Hydref, a bydd cyfle i’r cyhoedd wylio’r ffilm wedyn o 10.30am. Ar ôl hynny, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i fwynhau’r ffilm bob dydd, wrth iddi gael ei dangos ar gylchdro o fewn arddangosfa’r ganolfan ymwelwyr.
Cynhyrchwyd y ffilm, un o fentrau Prosiect Ehangu Coedwig Law Geltaidd Cwm Elan, gyda chefnogaeth cynllun TWIG (Y Grant Buddsoddi mewn Coetir) drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y prosiect, a arweiniwyd gan Dŵr Cymru, ar y cyd â RSPB Cymru gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed.
Dechreuodd y ffilmio ym mis Gorffennaf 2024 er mwyn dangos y cwm gwyrdd ffrwythlon a’r doreth o fywyd gwyllt, ac yn fuan wedyn ar ddiwedd mis Hydref dechreuwyd ffilmio eto i ddangos y newidiadau rhyfeddol yn lliwiau’r coed.
Cafodd Jen Newman, Rheolwr Ystadau Dŵr Cymru ac arweinydd prosiect TWIG, y syniad ysbrydoledig o wahodd Charlotte Church i leisio’r ffilm. Gyda chysylltiadau agos Charlotte â’r ardal, y mae ei hencil, ‘The Dreaming’, yn ffinio ag Ystad Cwm Elan – a’i hangerdd dwfn am natur, hi oedd y dewis perffaith i ddod â’r sgript yn fyw.
Dywedodd Jen, “Roedden ni eisiau creu rhywbeth sy’n dangos ysbryd Cwm Elan – ei harddwch naturiol, ei hanes, ei fywyd gwyllt, a’r profiadau anhygoel y mae’n eu cynnig. Mae’r ffilm hon yn groeso cynnes i’n holl ymwelwyr ac yn ein hatgoffa pam mae’r dirwedd hon a’n Coedwigoedd Glaw Celtaidd mor arbennig. Mae naratif Charlotte yn rhoi cyfoeth i olygfeydd syfrdanol a threftadaeth y dirwedd, gan ychwanegu dyfnder eithriadol i’r ffilm. Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r ffilm gydag ymwelwyr.”
Dyfarnwyd y contract ffilmio i’r cwmni cynhyrchu fideo arbenigol o Gaerloyw, Bexmedia; roedd eu creadigrwydd a’u harbenigedd technegol yn amlwg trwy gydol y cynhyrchiad pymtheg mis, a chafwyd cefnogaeth ragorol ganddynt ar bob cam.
Fel elfen allweddol o Brosiect Ehangu Coedwig Law Geltaidd Cwm Elan, mae llwybr cerdded ymdrochi newydd sbon wedi’i ddatblygu trwy Goedwig Law Geltaidd Cwm Elan. Mae paneli dehongli addysgiadol wedi’u creu a fydd yn cael eu gosod ar hyd y llwybr yn y gwanwyn, gan gyfoethogi profiad ymwelwyr gyda gwybodaeth am y safleoedd coetir pwysig hyn sy’n gartref i bryfed, gloÿnnod byw ac adar prin. Maent yn hafan i fioamrywiaeth ond credir eu bod o dan fwy o fygythiad na choedwigoedd glaw trofannol.
Disgwylir i’r llwybr, y bydd taflen bwrpasol yn cael ei chynhyrchu i gyd-fynd ag ef, agor i’r cyhoedd yn y gwanwyn, gan wahodd ymwelwyr i ymgolli yn nhawelwch a harddwch naturiol yr ardal.
Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol Yng Nghronfa Ddŵr Craig Goch
Amcangyfrif o’r dyddiad cwblhau: 21 Hydref 2025
Ar hyn o bryd mae Dŵr Cymru yn buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw hanfodol i ddiogelu Cronfa Ddŵr eiconig Craig Goch yng Nghwm Elan.
Efallai y byddwch chi’n gweld deifwyr yn gweithio’n galed yn archwilio strwythurau tanddwr. Er mwyn gwneud y gwaith hwn yn ddiogel, mae angen gostwng lefel y dŵr yn y gronfa ond mae hyn yn gwbl arferol ac yn arfer safonol. Mae’r dŵr dros ben yn cael ei reoli’n ofalus, yn aml yn llifo i gronfeydd dŵr eraill. Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd lefel y dŵr yn dychwelyd i’w lefel arferol.
I gael rhagor o wybodaeth am waith buddsoddi yn rhanbarth Dŵr Cymru, ewch i’r dudalen Yn Eich Ardal ar wefan Dŵr Cymru a rhowch eich cod post
Gwaith Ar y Tir Yng Nghyffiniau’r Ganolfan Ymwelwyr
Dydd Mercher 23 Gorffennaf i ddydd Mawrth 7 Awst (yn ystod yr wythnos yn unig)
Bydd gwaith yn dechrau yng Nghwm Elan y mis hwn i asesu’r tir fel rhan o’r cynlluniau manwl i ailddatblygu’r ganolfan ymwelwyr. Bydd cloddio pyllau prawf ger y ganolfan ymwelwyr yn swnllyd a bydd angen cau ar wahanol adegau, er enghraifft, rhannau o’r maes parcio neu bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Ni fyddwn yn gwybod yr union leoliadau tan y bore y bydd y cloddio’n dechrau.
Rydym yn ymddiheuro a byddwn yn gwneud ein gorau glas i leihau unrhyw darfu ar ymwelwyr. Bydd y ganolfan ymwelwyr ar agor fel arfer yn ystod y cyfnod hwn, ond os ydych chi’n bwriadu ymweld ac os oes gennych bryderon am y sŵn, argaeledd gwefru cerbydau trydan neu effaith y gwaith yn gyffredinol, cysylltwch â ni ar 01597 810880 neu elanvalley@dwrcymru.com cyn teithio.
Mae’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan amgen agosaf yn Rhaeadr Gwy.
Ailddatblygu’r ganolfan ymwelwyr yw ail gam Prosiect Llynnoedd Cwm Elan, buddsoddiad o £21.7m i gryfhau’r cynnig twristiaeth gynaliadwy yng nghanolbarth Cymru, creu cyrchfan o’r radd flaenaf a hybu twf economaidd. Mae’r cynlluniau wedi’u cyflwyno i’r awdurdod lleol. Mae rhagor o wybodaeth a dolenni ar gael yma.
Ffyrdd ar Gau, Mehefin a Gorffennaf 2025
Mae gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y gweill ar hyd ffyrdd yr U1554 a’r C1206. Er diogelwch, bydd angen cau’r ffordd i gerbydau modur. Bydd modd i gerddwyr a beicwyr fynd heibio i’r gwaith. Bydd modd i drigolion a ffermwyr ddefnyddio’r ffordd yn ôl disgresiwn y contractwr ac os yw’n ddiogel gwneud hynny ar y pryd.
U1554 yng Nghwm Claerwen o Ddol y Mynach i ben argae Claerwen
Dydd Llun 30 Mehefin i ddydd Mawrth 1 Gorffennaf – 08:00 i 16:00 o’r gloch
C1206 o Ddol y Mynach i’r Garreg Ddu
Dydd Mercher 2 Gorffennaf i ddydd Gwener 4 Gorffennaf – 08:00 i 16:00 o’r gloch
C1206 o weithfeydd Trin Hafren i Bont ar Elan
Dydd Llun 7 i ddydd Gwener 11 Gorffennaf – 08:00 i 17:00 o’r gloch
MAPIAU
Bargen Twf Canolbarth Cymru – 21 Mawrth 2025
Datgloi £11.8m yn rhagor ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru wrth i’r prosiect cyntaf ddwyn siâp
Mae llywodraethau’r DU a Chymru wedi cadarnhau bod £11.8m o gyllid wedi’i ryddhau i Ganolbarth Cymru fel rhan o becyn buddsoddi i roi hwb i economi’r rhanbarth.
Daeth y cyhoeddiad wrth i Weinidogion fynd ar daith yr wythnos hon i weld y prosiect cyntaf i gael cefnogaeth Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n cael ei chefnogi gan y ddwy lywodraeth er mwyn denu mwy o fuddsoddi oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Roedd yr ymweliad â datblygiad Llynnoedd Cwm Elan – sy’n ceisio gosod meincnod newydd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy – yn gam mawr ymlaen i’r Fargen Dwf wrth i brosiectau ddechrau mynd yn eu blaen o’r cam cynllunio i’r cam cyflawni.
Bydd y pecyn gwaith cyntaf yn hybu profiad ymwelwyr, yn cynyddu refeniw yn lleol ac yn cynnal harddwch naturiol a bioamrywiaeth Cwm Elan. Bydd y pwyslais ar ddau faes allweddol:
- Ehangu’r Goedwig Law Geltaidd – Cysylltu ac adfer 117 hectar o goetiroedd tameidiog fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
- Dylunio’r Ganolfan Ymwelwyr – Rhoi cychwyn ar y dyluniadau ar gyfer yr ailddatblygu er mwyn hybu profiad ymwelwyr ac integreiddio addysg amgylcheddol ac arferion cynaliadwy.
Rhagwelir y bydd y cam cyntaf ar ei ben ei hun yn dod â budd economaidd blynyddol o £4m ac y bydd y prosiect yn cyfrannu £17m i’r economi ranbarthol erbyn 2040.
Cafodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, ac Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, eu croesawu gan gynrychiolwyr o Dyfu Canolbarth Cymru, sef y bartneriaeth ranbarthol sy’n goruchwylio’r Fargen Dwf, ynghyd â’r datblygwyr Dŵr Cymru.
Yno, cadarnhaodd y Gweinidogion fod Llywodraethau Prydain a Chymru wedi datgloi ail gyfran cyllid y Fargen Dwf, sy’n werth cyfanswm o £11.8m.
Dywedodd y Fonesig Nia Griffith DBE AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae Llywodraeth y DU yn cefnogi’r rhanbarth i gyflawni ein cenhadaeth o dwf economaidd drwy hybu twristiaeth a chreu swyddi.
“Mae Cwm Elan yn lle hyfryd a bydd y gwelliannau hyn yn golygu bod y profiad o ymweld â’r ardal yn well eto, gan warchod yr amgylchedd ar yr un pryd.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein gweledigaeth ar gyfer ffyniant economaidd ledled Cymru. Mae gan briosect Llynnoedd Cwm Elan y potensial i drawsnewid gan ddenu ymwelwyr, creu swyddi a gosod Canolbarth Cymru fel cyrchfan o bwys mewn Cymru lewyrchus, werdd a theg.”
Gwnaeth Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies bwysleisio’r manteision ehangach: “Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn gwella ein sector twristiaeth ond hefyd yn blaenoriaethu cadwraeth a chynaliadwyedd. Bydd yn creu swyddi yn uniongyrchol ac yn yr economi ehangach. Rydym yn ymroi i gefnogi’r prosiect wrth iddo fynd rhagddo.”
Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn brawf o’n hymrwymiad i dwristiaeth gynaliadwy ac adfywio amgylcheddol gan chwarae ein rhan yn ‘Nhîm Cymru’ wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd yn trawsnewid Cwm Elan yn gyrchfan o bwys gan ddod â budd i’n cwsmeriaid a’r gymuned leol.”
Rhybudd Ia Ac Eira – 7 Mawrth 2025
Mae’r Gofalwyr yn gweithio’n galed i ailagor y ddau lwybr sydd ar gau yng Nghoedwig Penbont. Achosodd Storm Darragh ddifrod sylweddol i’r goedwig yma, ac mae’r ymdrechion i’w gwneud yn ddiogel a chodi pontydd newydd yn lle’r rhai a ddifrodwyd, wrth amddiffyn yr ardal gadwraeth a’r SoDdGA, yn parhau. Mae hi’n debygol y bydd y ddau lwybr yma’n agor eto yn Ebrill 2025.
Mae’r trefniant brys i gau’r llwybr cerdded sy’n effeithio ar lwybr cerdded Cylch y Garreg Ddu mewn grym o hyd. Mae yna lawer o waith i’w wneud i wneud y coed yn ddiogel, ond mae’r tîm yng Nghwm Elan yn hyderus y bydd y llwybr ar agor eto erbyn Mehefin 2025.
Rhybudd Ia Ac Eira – 7 Chwefror 2025
Ar ôl wythnosau o waith caled gan dîm gofalwyr Cwm Elan, rydyn ni’n falch o ddweud bod y rhan fwyaf o’r llwybrau cerdded a’r llwybrau beicio ar yr ystâd bellach wedi ailagor.
Mae Coedwig Penbont (y Llwybrau Gwyrdd a Phorffor) a Chylch y Garreg Ddu – yn benodol y llwybr cerdded ar hyd lan orllewinol y gronfa rhwng Penbont ac Argae’r Garreg Ddu – yn dal i fod ar gau.
Rydyn ni’n cynghori ymwelwyr i gadw at y llwybrau am y tro ac i beidio â mynd i grwydro am fod gwaith yn parhau ar draws yr ystâd i drwsio’r difrod a gwneud y coed yn ddiogel.
Byddem yn argymell galw heibio i’r ganolfan ymwelwyr cyn mynd i gerdded neu feicio hefyd. Gall ein mapiau a’n tîm croeso helpu i sicrhau eich bod chi’n cael mwynhau’r profiad gorau posibl yng Nghwm Elan wrth i ni barhau i ymadfer yn sgil Storm Darragh.
Rhybudd Ia Ac Eira – 23 Ionawr 2025
Mae’r holl lwybrau cerdded ar gau o hyd, heblaw am Lwybr Cwm Elan a Choedwig y Cnwch (Llwybr Glas). Mae modd llogi beics, ond o’r holl lwybrau, dim ond Llwybr Cwm Elan sy’n agored i feicwyr ar hyn o bryd.
Notice
Map
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi Gorchymyn Cau Dros Dro o dan Adran 14(1) o Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1984. Oherwydd maint y difrod i’r coed yn sgil Storm Darragh, mae’r llwybr cyhoeddus rhwng Tŷ Penbont a’r Garreg Ddu ar gau i gerddwyr. Bydd y llwybr 5.6km (yn fras) ar gau tan 20 Gorffennaf 2025 neu nes bod y gwaith i glirio’r coed a ddifrodwyd wedi ei gwblhau, p’run bynnag sydd cyntaf.
Rhybudd Ia Ac Eira – 16 Ionawr 2025
Mae ein tîm yn dal i weithio’n galed i glirio’r llanast a’r coed sydd wedi disgyn. Am fod cymaint o ddifrod, mae hyn yn debygol o gymryd amser.
Mae’r ffyrdd bellach yn glir o falurion ac iâ, ond dylai gyrwyr gymryd gofal am fod yr offer a’r peiriannau trwm sy’n helpu gyda’r broses o glirio’n cael eu symud o gwmpas yr ystâd.
Mae’r holl lwybrau cerdded ar gau o hyd, heblaw am Lwybr Cwm Elan a Choedwig y Cnwch (Llwybr Glas). Mae modd llogi beics, ond o’r holl lwybrau, dim ond Llwybr Cwm Elan sy’n agored i feicwyr ar hyn o bryd.
Rhybudd Ia Ac Eira – 9 Ionawr 2025
Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Chwm Elan y penwythnos yma, cofiwch nad yw’r ffyrdd a’r meysydd parcio wedi eu graeanu a bod angen cymryd gofal arbennig wrth grwydro neu yrru o gwmpas yr ystâd.
Mae ffyrdd ar draws ystâd Elan dan haen o iâ, a lle mae dŵr wedi llifo ar draws yr wyneb am fod y cwlferti a’r ffosydd wedi’u tagu, mae’r iâ modfedd o drwch. Mae malurion yn sgil Storm Darragh yn dal achosi perygl, yn arbennig ar y ffordd i Ben y Garreg.
Diweddariad – Storm Darragh – 9 Ionawr 2025
Rangers have worked hard over Christmas to clear as much as they can but trails like the Nant y Gro path, Clarewen byway, the Green and Orange trails in Penbont Wood and the Garreg Ddu round walk remain closed.
Mae’r ganolfan ymwelwyr, y caffi a’r siop ar agor.
Diweddariad – Storm Darragh – 3 Ionawr 2025
Achosodd Storm Darragh ddifrod i rannau helaeth o goetiroedd Ystâd Cwm Elan. Amcangyfrifir bod 30,000 o goed wedi cael ei dymchwel neu eu difrodi gan y storm.
Mae’r holl lwybrau cerdded a beicio ar gau o hyd, heblaw am lwybr cerdded glas Coedwig y Cnwch a’r rhan o Lwybr Cwm Elan sy’n rhedeg o’r ganolfan ymwelwyr i Graig Goch.
Mae modd defnyddio’r holl ffyrdd ar draws yr ystâd, ond mae malurion a mwd mewn mannau o hyd. Dylai gyrwyr barhau i gymryd gofal arbennig.
Mae’r gwasanaeth llogi beics ar gael, ond am taw rhan yn unig o Lwybr Cwm Elan sy’n agored, mae’r cyfleoedd i feicio’n gyfyngedig.
Mae’r ganolfan ymwelwyr, y caffi a’r siop ar agor.
Mae’r tywydd yn debygol o effeithio ar Gwm Elan eto’r penwythnos yma (4-5 Ionawr) am fod eira, gwynt a glaw yn y rhagolygon. Cadwch lygad am rybuddion tywydd cyn cychwyn, ac ystyriwch unrhyw ganllawiau teithio’n ofalus.
Diweddariad – Storm Darragh – 31 Rhagfyer 2024
Mae coeden wedi disgyn ar draws y llwybr rhwng byngalo ‘The Beckoning Lady’ (cyfeirnod grid SN 94003 65865) a’r giât nesaf (SN 94392 66152). Am resymau diogelwch, mae’r rhan hon o’r llwybr ar gau ar hyn o bryd.
Mae’r ganolfan ymwelwyr, y caffi a’r siop ar agor fel arfer.
Diweddariad – Storm Darragh – 19 Rhagfyer 2024
Mae Gofalwyr Cwm Elan yn parhau i glirio llanast Storm Darragh. Nid yw’r sefyllfa wedi newid ers y diweddariad isod. Mae’r holl ffyrdd ar agor, ond dylai gyrwyr gymryd pwyll arbennig. Mae’r holl lwybrau cerdded a beicio ar gau o hyd ac eithrio Llwybr Cwm Elan a Choedwig y Cnwch.
Gyda gwyliau’r Nadolig yn nesáu, mae diogelwch ymwelwyr yn bwysicach nag erioed. Os ydych chi’n bwriadu ymweld dros gyfnod yr ŵyl, ein cyngor ni yw cadw draw wrth ein coedwigoedd a pheidio â cheisio mynd i unrhyw ardaloedd sydd ar gau. Cofiwch ddarllen yr arwyddion ar y safle a’u dilyn.
Bydd y ganolfan ymwelwyr, y caffi a’r siop ar agor trwy gydol y gwyliau (ond nid dydd Nadolig).
Diweddariad – Storm Darragh – 16 Rhagfyer 2024
Mae gofalwyr Cwm Elan wedi bod yn gweithio’n galed dros yr wythnos ddiwethaf i glirio’r difrod yn sgil Storm Darragh. Cafodd dros fil o goed eu dymchwel gan y gwyntoedd cryfion gan rwystro llwybrau a ffyrdd, a chreu peryglon ar draws cymoedd Elan a Chlaerwen.
Mae modd defnyddio’r holl ffyrdd ar draws yr ystâd erbyn hyn, er bod yna lawer o falurion a mwd ar wyneb y ddaear o hyd. Dylai gyrwyr gymryd gofal arbennig, yn enwedig yng nghyffiniau Argae Pen y Garreg.
Mae Llwybr Cwm Elan – yr holl ffordd o Raeadr Gwy i Graig Goch – bellach yn agored i gerddwyr a beicwyr, ac mae’r Llwybr Glas trwy Goedwig y Cnwch yn agored i gerddwyr.
Mae’r holl lwybrau eraill ar gau o hyd.
Mae’r gwasanaeth Llogi Beics wedi ailagor, ond am taw Llwybr Cwm Elan yw’r unig un sydd ar gael, mae’r cyfleoedd i grwydro’n gyfyngedig.
Storm Darragh – Ystâd ar Gau – 10 Rhagfyer 2024
Mae pob llwybr cerdded/beicio ar gau yn sgil effeithiau Storm Darragh. Mae coed wedi disgyn ac mae llawer o’r llwybrau a’r ffyrdd wedi eu blocio’n llwyr neu’n rhannol.
Oherwydd hyn, mae’r holl ffyrdd ar draws Cwm Elan ar agor i gerbydau hanfodol yn unig.
Plîs peidiwch â cheisio crwydro’r ystâd.
Rydyn ni’n gweithio mor galed ag y gallwn ni i fynd i’r afael â’r difrod, ond bydd hyn yn cymryd amser. Byddwn ni’n rhannu rhagor o fanylion â chi cyn gynted ag y gallwn ni.
Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor fel hyb i’r gymuned, gan gynnig lloches i’r rhai sydd heb ynni/dŵr, dewis o luniaeth ysgafn yn ein caffi, defnydd am ddim o’r Wi-Fi, a chyfleusterau tŷ bach.
Statws Coedwig Genedlaethol yng Nghwm Elan – 1 Awst 2024
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Coetir y Gro a Choedwig Cnwch yng Nghwm Elan wedi derbyn statws Coedwig Genedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru, ac maent bellach yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol sy’n ffurfio rhwydwaith o goetiroedd cysylltiedig sy’n ymestyn ar hyd a lled Cymru.
Mae’r meini prawf ar gyfer cael eu cynnwys yng Nghoedwig Genedlaethol Cymru yn canolbwyntio ar goetiroedd rhagorol sy’n cyfrannu at nodau’r cynllun. I fod yn gymwys, rhaid i goetiroedd ddangos eu bod yn gydnerth, o ansawdd da, wedi’u cynllunio’n dda ac wedi’u rheoli’n dda ac sy’n hygyrch i bobl ac sy’n annog cyfranogiad cymunedol. Rhaid iddynt fod yn goetiroedd deinamig ac amlbwrpas sy’n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi. Gyda dros 100 o safleoedd eisoes yn rhan o’r rhwydwaith, mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn dyst cynyddol i ymroddiad Cymru i’w hymrwymiad hirdymor, sy’n ymestyn dros ddegawdau lawer.
Mae Cwm Elan a Dwr Cymru Welsh Water yn falch o fod yn rhan o’r fenter bwysig hon.
Ceir rhagor o wybodaeth yma