Gan ddechrau o Raeadr Gwy, mae’r llwybr anodd yma’n cynnwys popeth sydd gan Gwm Elan i’w gynnig i feicwyr mynydd. Mae’r llwybr yn gofyn am lefel dda o ffitrwydd a phrofiad o feicio oddi ar y ffordd wrth i chi ymrafael â’r disgynfeydd cyflym a’r adrannau creigiog. Mae rhai adrannau’n dechnegol iawn â cherrig rhydd, slabiau a disgynfeydd serth.
Cychwynnwch o Faes Parcio Cwmdauddwr i lawr Llwybr Cwm Elan. Dechrau gweddol rwydd ond peidiwch â chael eich twyllo – mae hwn yn llwybr technegol. Mae ceuffordd Dyffryn Claerwen yn her ac felly hefyd llawer o’r disgynfeydd. Wrth deithio trwy goetir a bryniau agored heibio argaeau a chronfeydd dŵr, byddwch yn cael y pleser o olygfeydd godidog…
Llwybr awr o hyd poblogaidd o anhawster cymedrol sy’n cynnwys disgyniad estynedig i lawr hen gwrs golff naw twll Rhaeadr.
• I’R LLWYBR •Llwybr sy’n cynnwys bryniau agored, coetir brith a thir ffermio gweithredol. Dylai ei hyd o 19 cilomedr gymryd tua dwy awr…
• I’R LLWYBR •Pam dewis un llwybr yn unig pan allwch chi eu dilyn nhw i gyd? Mae’r llwybr anodd hwn yn cynnwys popeth sydd gan Gwm Elan i’w gynnig i feicwyr mynydd.
• I’R LLWYBR •