Yn dilyn llinell hen Reilffordd Gorfforaeth Birmingham y rhan fwyaf o’r ffordd, mae Llwybr Cwm Elan yn cynnig y cyfle i deuluoedd, seiclwyr nofydd a’r rhai brwdfrydig i brofi rhan brydferth o’r wlad ar ei orau tra’n cadw’n heini a helpu’r amgylchedd.
Mae rhan helaeth o’r llwybr wedi’i darmacio, felly mae’n addas ar gyfer defnyddwyr llai abl, ond nid yw’r pen ogleddol wedi’i darmacio.
Dechreua’r llwybr yng nghymuned brydferth Cwmdeuddwr ar ochr orllewinol Rhaeadr. Gellir parcio yn lleol ac mae gan Raeadr nifer o gaffis, siopau, tafarndai, siop feic a thoiledau. Gellir seiclo Llwybr llinellog Cwm Elano’r ddau gyfeiriad ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn teithio i’r gorllewin o’r dref tuag at y cwm.
Ar ôl gadael Cwmdeuddwr dringwch y llwybr dros Dwnnel trawiadol Rhaeadr, Gwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed sy’n gartref i nifer o fathau o ystlumod.
Tua hanner milltir yn ddiweddarach mae’r llwybr yn croesi ffordd, wrth y gyffordd yma mae Lôn Las Gymru yn ymwahanu ac mae Llwybr Cwm Elan yn parhau’n syth ymlaen ar hyd y llwybr.
Ar y gyffordd nesaf fe allwch naill a’i parhau ar hyd y llwybr i fyny hyd at yr argaeau a’r cronfeydd dŵr, neu ddisgyn i Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan ar gyfer lluniaeth yn y caffi, darllen hanes yr ardal ac ymweld â’r ganolfan groeso.
Mae’r llwybr yn dringo’n gyson o ochr ogleddol cronfa ddŵr Garreg Ddu, gan roi golygfeydd godidog o’r cymoedd o gwmpas a’r pedair gronfa ddŵr sy’n darparu dŵr i Birmingham, ac yn parhau hyd at y diwedd wrth Argae Craig Goch ble mae toiledau ar gael.
A short (15km), moderate route that takes you around Caban Coch reservoir which should take about an hour to complete.
• I’R LLWYBR •Mae’r llwybr 29 cilomedr cymedrol hwn yn cymryd tua thair awr gan eich arwain trwy rannau o ddyffryn Gwy yn ogystal â chwm Elan.
• I’R LLWYBR •Mae’r llwybr 32 cilomedr cymedrol hwn yn cymryd tua thair i bedair awr i’w gwblhau ac yn cynnwys safle hynafol ei enw yn ogystal â bryniau agored a phedair cronfa ddŵr.
• I’R LLWYBR •