Cychwynnwch o Gwmdauddwr am daith epig 60km trwy gymoedd Elan a Chlaerwen. Yn erbyn cefndir bendigedig o argaeau a chronfeydd mawreddog, byddwch chi’n croesi bryniau agored, yn gwibio trwy goetiroedd ac yn rhodio ar hyd llwybrau marchogaeth! Bydd y llwybr yn mynd â chi heibio i’r Ganolfan Ymwelwyr, felly cofiwch alw i mewn i gael eich gwynt atoch dros baned.
Yn cychwyn o Raeadr, mae’r llwybr hwn yn cynnwys popeth sydd gan Gwm Elan i’w gynnig i feicwyr mynydd.
Llwybr technegol anodd o 30 cilomedr â dringfeydd mawr gan gynnwys Cwm Elan a Dyffryn Claerwen â’u golygfeydd godidog.
• I’R LLWYBR •Llwybr sy’n cynnwys bryniau agored, coetir brith a thir ffermio gweithredol. Dylai ei hyd o 19 cilomedr gymryd tua dwy awr…
• I’R LLWYBR •Llwybr awr o hyd poblogaidd o anhawster cymedrol sy’n cynnwys disgyniad estynedig i lawr hen gwrs golff naw twll Rhaeadr.
• I’R LLWYBR •