Llwybr 29 cilomedr cymedrol sy’n mynd â chi trwy rannau o ddyffryn Gwy yn ogystal â chwm Elan. Mae’n cychwyn yn Rhaeadr.
O Gwmdauddwr ar gyrion Rhaeadr, byddwn yn dilyn afon Gwy tan i chi gyrraedd Nannerth-fawr. O’r fan yma, trowch i’r chwith ar ddringfa hir a pharhaus a chroeswch o dan Moelfryn. Gadewch y rhostiroedd agored a dilynwch ddarn fer o ffordd y mynydd, cyn mynd i lawr ffordd gul fydd yn mynd â chi’r holl ffordd i lawr i Argae Craig Goch. Ewch i lawr y cwm, dilynwch y llwybr beicio cyn troi yn sydyn i’r chwith uwchben Argae Penygarreg. Dringwch Esgair Penygarreg a chewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd godidog i Ddyffryn Gwy a’r Mynyddoedd Du. Disgynnwch a chroeswch y ffordd fynydd unwaith eto i orffen ar y disgyniad twyni golff cyffrous i mewn i Raeadr.
Mae’r llwybr 32 cilomedr cymedrol hwn yn cymryd tua thair i bedair awr i’w gwblhau ac yn cynnwys safle hynafol ei enw yn ogystal â bryniau agored a phedair cronfa ddŵr.
• I’R LLWYBR •Llwybr sy’n cynnwys bryniau agored, coetir brith a thir ffermio gweithredol. Dylai ei hyd o 19 cilomedr gymryd tua dwy awr…
• I’R LLWYBR •Llwybr awr o hyd poblogaidd o anhawster cymedrol sy’n cynnwys disgyniad estynedig i lawr hen gwrs golff naw twll Rhaeadr.
• I’R LLWYBR •