Yn cychwyn o Raeadr, mae’r llwybr hwn yn cynnwys hanes hynafol, bryniau agored ac yn mynd heibio pedair cronfa ddŵr.
Cynheswch eich coesau ar ddringfa’r hen Ffordd Fynydd i safle Gwersyll Rhufeinig. Mae’r bryniau agored yn mynd â chi ymhell uwchben argae a chronfa ddŵr Craig Coch, i lawr drwy’r cwm ac ar hyd llinell Rheilffordd Corfforaeth Birmingham. Cymerwch seibiant am luniaeth haeddiannol yn y Ganolfan Ymwelwyr cyn ymlwybro yn ôl i Raeadr ar hyd afon Gwy.
Llwybr byr (15 cilomedr), cymedrol sy’n mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban-coch a ddylai gymryd tua awr i’w gwblhau.
• I’R LLWYBR •Mae’r llwybr 29 cilomedr cymedrol hwn yn cymryd tua thair awr gan eich arwain trwy rannau o ddyffryn Gwy yn ogystal â chwm Elan.
• I’R LLWYBR •Llwybr awr o hyd poblogaidd o anhawster cymedrol sy’n cynnwys disgyniad estynedig i lawr hen gwrs golff naw twll Rhaeadr.
• I’R LLWYBR •