Mae’r daith gerdded gylchol rwydd hon yn cymryd tua hanner awr i’w chwblhau ac yn cynnwys golygfa anhygoel o Argae Caban-coch.
Gan ddilyn y saethau glas, ceir arwyneb da ar y daith gerdded hon sy’n golygu ei bod yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio a defnyddwyr cadair olwyn, er y gallai fod angen rhywfaint o gymorth.
Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN927646
O’r Ganolfan Ymwelwyr, cerddwch tuag at Argae Caban-coch a chroeswch y bont. Yn dibynnu ar faint o ddŵr sydd yn y gronfa, gallai fod braidd yn wlyb os yw’r dŵr yn rhaeadru i lawr – yn gorlifo – mur yr argae.
Cerddwch o gwmpas tŷ’r tyrbin a throwch i’r chwith, gan ddilyn y saethau glas drwy’r glwyd fetel.
Cerddwch drwy’r goedwig – gofalwch eich bod yn gwerthfawrogi amgylchiadau tawel a hardd y coetiroedd derw hynafol hyn a chadwch lygad allan am y doreth gyfoethog o fywyd adar yma. Pan fydd y llwybr yn gwahanu, parhewch i ddilyn y llwybr ar y chwith, sy’n disgyn yn rhwydd i’r ffordd.
Ailymunwch â’r ffordd, croeswch y bont a throwch i’r chwith i lawr rhodfa’r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae’r daith gerdded dwy awr o hyd hon yn cynnwys estyniad i lwybr coetir cylchol Coedwig Cnwch sy’n edrych dros bentref Elan ac yna’n mynd heibio iddo.
• I’R LLWYBR •Taith gerdded awr o hyd weddol heriol sy’n cylchu o amgylch Craig Cwplau gyda golygfeydd o ddiffeithwch Cambria ac Argae Claerwen.
• I’R LLWYBR •Llwybr sy’n cymryd tua awr a hanner i’w gwblhau ac yn cynnwys coetir hynafol a golygfeydd gwych o Gaban-coch.
• I’R LLWYBR •