Llwybr Cerdded - Cylchdaith Garreg Ddu - Elan Valley - Welsh Water

Teithiau Cerdded yng Nghwm Elan

Cylchdaith Garreg Ddu

Llwybr Oren (Coeden Dderw)

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Cylchdaith Garreg Ddu


Mae taith gerdded gylchol tair awr o hyd, un o rai mwyaf poblogaidd Cwm Elan, yn mynd ag ymwelwyr o amgylch cylchdaith Garreg Ddu trwy goedwigoedd a chaeau hyfryd.

Manylion y Llwybr

Dilynwch y saethau oren ar hyd llwybr heb unrhyw ddringfeydd sylweddol ond efallai y bydd rhai rhannau yn wlyb dan draed. Mae’r llwybr drwy’r goedwig yn gul mewn mannau â gwreiddiau coed wedi’u dadorchuddio. Argymhellir esgidiau cadarn.

Difficulty: Anodd

Distance: 6.2 milltir / 10 cilomedr

Time: 3 awr

Eich Llwybr


Dechrau

Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN915673

1

O Faes Parcio Penbont, croeswch y ffordd a dilynwch y saethau oren i lwybr graean bach drwy’r coed. Ymunwch â’r palmant a pharhewch ar hyd y ffordd i fyny i’r glwyd lydan.

2

Ewch drwy’r glwyd wrth y tro sydyn, sy’n arwain i drac garw.

3

Dilynwch y trac am tua 1 cilomedr heibio Ffermdy Tynllidiart a pharhewch trwy ychydig o glwydi fferm. Dilynwch y trac ar hyd ymyl y cae, gan fynd drwy’r rhyd a thrwy glwyd fferm arall.

4

Dilynwch yr arwyddion ffordd ar hyd ymyl y caeau am 300 medr i glwyd sy’n arwain at lwybr bordiau ar draws nant fach a chors. Dilynwch y llwybr i lawr y rhiw tan i chi gyrraedd clwyd fach arall i mewn i’r coetir.

5

Dilynwch yr arwyddion ffordd ar hyd llwybr coedwig am 1 cilomedr tan i chi gyrraedd clwyd fach i mewn i gae.

6

Croeswch y cae ac ewch drwy glwyd fach arall ar yr ochr arall, yn ôl i mewn i’r goedwig.

7

Dilynwch y llwybr trwy olion Waliau Gardd Tŷ Cwm Elan – lle arhosodd y bardd Shelley ym 1811-1812.

8

Parhewch i lawr y rhiw a chroeswch y bont dros Nant Methan. Dilynwch y llwybr i fyny ar yr ochr arall a pharhewch ar hyd y llwybr coediog am tua 600 medr.

9

Ar ôl i chi gyrraedd clwyd fach arall, dilynwch y llwybr i fyny’r rhiw tan i chi gyrraedd trac mawr – byddwch yn ofalus o gerbydau fferm.

10

Trowch i’r chwith a dilynwch y trac i lawr y rhiw. Parhewch am 500 medr tan i chi gyrraedd pâr o bontydd. Trowch i’r chwith i lawr y grisiau i’r bont droed.

11

Croeswch y bont a dilynwch y trac yn ôl tuag at Draphont Garreg Ddu.

12

Cerddwch ar draws y draphont a throwch i’r chwith i ymuno a Llwybr Cwm Elan. Bydd hyn yn mynd â chi yn ôl ar hyd lan arall y gronfa ddŵr. Dilynwch y llwybr am bron i 3 cilomedr tan i’r llwybr fynd trwy glwyd a chroesi’r ffordd.

13

Ewch drwy’r glwyd a chadwch i’r chwith, gan ddilyn y ffordd am 800 medr. Croeswch y bont grom islaw Argae Pen-y -garreg i ddychwelyd i Benbont ar y dde i chi.

• LAWRLWYTHO TAFLEN •

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Llwybr Cwm Elan i Raeadr

Yn bennaf wastad ag un rhan serth yn unig ger Cwmdauddwr, mae’r daith gerdded 1.5 awr o hyd hon o’r Ganolfan Ymwelwyr i dref gyfagos Rhaeadr yn llwybr poblogaidd.

• I’R LLWYBR •

Claerwen a Chraig Cwplau

Taith gerdded awr o hyd weddol heriol sy’n cylchu o amgylch Craig Cwplau gyda golygfeydd o ddiffeithwch Cambria ac Argae Claerwen.

• I’R LLWYBR •

Llwybr Oren Coedwig Cnwch

Llwybr sy’n cymryd tua awr a hanner i’w gwblhau ac yn cynnwys coetir hynafol a golygfeydd gwych o Gaban-coch.

• I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU