Taith gerdded dair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.
Dilynwch Arwydd Ffordd y Barcud ar hyd llwybr llinellog sy’n bennaf wastad â dringfeydd rhwydd. Ceir tarmac ar y llwybr hyd at Garreg Ddu (un filltir). Mae’n addas ar gyfer pob defnyddiwr gan gynnwys cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Byddwch yn ofalus wrth groesi neu gerdded ar y ffyrdd, yn enwedig yn ystod adegau prysur.
Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN927646
Ewch i lawr y rhodfa ac ymunwch â’r llwybr ar y chwith cyn y grid gwartheg. Mae’r llwybr yn rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd oddi wrth y Ganolfan Ymwelwyr, cyn troi’n ôl ar ei hun wrth y gyffordd T. Bydd y llwybr yn mynd â chi tuag at yr argae ar raddiant haws.
O ben yr argae, dilynwch y llwybr am filltir i Garreg Ddu, gan ofalu eich bod yn cau unrhyw glwydi y tu ôl i chi.
Dilynwch y llwybr ar hyd ymyl cronfa ddŵr Garreg Ddu am bron i 3 cilomedr/1.8 milltir. O’r fan yma, efallai yr hoffech groesi’r draphont i gael golwg agosach ar Eglwys Nantgwyllt. Fel arall, parhewch ar draws y ffordd heibio Tŵr y Foel. Tŵr y Foel yw’r man lle mae dŵr yn cael ei dynnu o’r cronfeydd dŵr cyn cychwyn ei daith o 118 cilomedr i Birmingham trwy ddisgyrchiant.
Parhewch ar hyd lan Cronfa’r Garreg Ddu am 3km. Croeswch y ffordd a pharhewch i fyny’r ddringfa raddol trwy’r coed i ben Argae Pen y Garreg. Mae’r trac yn gwastatau ac yn mynd ar hyd ymyl Cronfa Pen y Garreg. Tua 1km ymlaen o Argae Pen y Garreg, fe ewch chi trwy Geunant y Diafol.
Mae rhan olaf y Llwybr yn mynd â chi i Argae Craig Goch. Dyma ddiwedd Llwybr Cwm Elan a hwn oedd terminws y rheilffordd.
Tro glan afon byr i olygfa wych o Argae Pen-y-garreg a ddylai gymryd tua hanner awr ac sy’n cychwyn ym Maes Parcio Penbont.
• I’R LLWYBR •Yn bennaf wastad ag un rhan serth yn unig ger Cwmdauddwr, mae’r daith gerdded 1.5 awr o hyd hon o’r Ganolfan Ymwelwyr i dref gyfagos Rhaeadr yn llwybr poblogaidd.
• I’R LLWYBR •Taith gerdded ddeugain munud o hyd i raeadr anhygoel â golygfeydd gwych o’r argae fwyaf yng Nghwm Elan.
• I’R LLWYBR •