Hysbysiad Preifatrwydd Dŵr Cymru
Hysbysiad Preifatrwydd Dŵr Cymru – Sut rydyn ni’n defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol (Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr) (Gorffennaf 2021)
Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi i chi ein bod ni’n gofalu am eich Gwybodaeth Bersonol. Cael pobl i ymddiried ynom i wneud y peth iawn yw un o’n gwerthoedd craidd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yma’n esbonio sut rydyn ni’n casglu, yn defnyddio, yn rhannu ac yn amddiffyn eich Gwybodaeth Bersonol mewn ffordd sy’n parchu eich hawliau Diogelu Data ac yn cydymffurfio â chyfreithiau Diogelu Data’r DU (gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018).
Amdanom ni
Cwmni dŵr a charthffosiaeth nid-er-elw yw Dŵr Cymru. Mae’n darparu cyflenwadau dŵr yfed o safon gyson uchel ar gyfer dros dair miliwn o bobl ac yn cludo dŵr gwastraff i ffwrdd gan ei drin a’i waredu mewn ffordd briodol yn ein hardal gyflenwi, sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o Gymru, a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Henffordd. Enw masnachol Dŵr Cymru Cyfyngedig yw Dŵr Cymru. At ddibenion cyfreithiau Diogelu Data, Dŵr Cymru Cyfyngedig yw’r Rheolydd Data (swyddfa gofrestredig Linea, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0LT a rhif y cwmni 02366777).
Mae’r cwmni’n gweithredu 91 o gronfeydd dŵr sy’n amrywio o ran maint o 2 erw i 1,026 erw. Mae’r rhain yn cynnwys portffolio cenedlaethol o Atyniadau Ymwelwyr sef: Llyn Brenig, Cwm Elan, Llyn Llandegfedd, Llys-y-Frân a Chronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien (ar y gweill) o dan ei frand ‘Anturiaethau Dŵr Cymru’. Hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden yw’r rhain, a’u nod yw ailgysylltu pobl â’r dŵr a’r amgylchedd, wrth gynnal, amddiffyn a chyfoethogi gwerth ecolegol pob safle.
Sut i gysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am ein Hysbysiad Preifatrwydd, neu os oes unrhyw sylwadau neu safbwyntiau gennych am yr hysbysiad neu ein dulliau o ymdrin â’ch Gwybodaeth Bersonol:
E-bostiwch ein Swyddog Diogelu Data yn: DataProtectionOfficer@dwrcymru.com; neu
Ysgrifennwch at ein Swyddog Diogelu Data yn: Swyddog Diogelu Data, Dŵr Cymru Welsh Water, Linea, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0LT.
Os hoffech ymarfer unrhyw un o’ch hawliau fel Testun Data (gweler isod am ragor o fanylion):
E-bostiwch ni yn: DataSubjectRightsRequests@dwrcymru.com; neu
Ysgrifennwch atom yn: Gwasanaethau Cwsmeriaid, Y Tîm Ceisiadau Hawliau Testun Data, Dŵr Cymru Welsh Water, Linea, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0LT.
Neu gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy https://ico.org.uk/ neu ar 0303 123 1113 i ofyn am wybodaeth neu gyngor, neu i wneud cwyn.
Ein hawl gyfreithiol i brosesu eich Gwybodaeth Bersonol
Ni fyddwn yn prosesu eich Gwybodaeth Bersonol oni bai: bod gennym sail gyfreithiol i wneud hynny, bod prosesu’n angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur; ac yn gyson â’r ffordd rydym yn ei disgrifio yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
Rhwymedigaeth gyfreithiol
Mae rhai elfennau o’r gwaith prosesu a gyflawnir mewn perthynas â’ch Gwybodaeth Bersonol yn hanfodol i berfformiad ein rhwymedigaethau cyfreithiol, fel ein dyletswydd i amddiffyn iechyd, diogelwch a lles ein hymwelwyr, ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr. Yn benodol, mae gennym ddyletswydd gofal i sicrhau bod ein hymwelwyr yn ddiogel ar ein safleoedd a’n bod ni’n cymryd camau i sicrhau diogelwch ein Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys tynnu sylw ein hymwelwyr at ein gweithdrefnau iechyd a diogelwch (e.e. ar ffurf sesiynau briffio gan ein staff cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau).
Buddiannau Dilys
Rydyn ni’n dibynnu ar ein buddiannau dilys i gyflawni’r mwyafrif o’r gwaith i brosesu eich Gwybodaeth Bersonol er mwyn eich galluogi chi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau yn ein Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr.
Rydyn ni’n gwirio bob tro nad yw eich hawliau’n drech na’n buddiannau dilys, ac yn prosesu eich Gwybodaeth Bersonol mewn ffordd rydym ni’n meddwl y byddech chi’n ei disgwyl yn rhesymol (h.y. fel a bennir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd yma).
Cydsyniad
O dan amodau cyfyngedig bydd arnom angen eich caniatâd i brosesu eich Gwybodaeth Bersonol – er enghraifft i anfon deunyddiau marchnata fel newyddlenni atoch, neu lle’r ydych chi’n darparu Gwybodaeth Bersonol Sensitif ar ein cyfer fel gwybodaeth feddygol neu o ran iechyd wrth drefnu gweithgareddau neu ddigwyddiadau. Rydyn ni’n gofyn hefyd am ganiatâd rhieni neu warcheidwaid i brosesu data personol plant (gan gynnwys eu henw a’u hoedran i’n galluogi i’w hadnabod a sicrhau bod gennym ni’r cyfarpar cywir ar eu cyfer). Pan fyddwn ni’n casglu eich Gwybodaeth Bersonol at y dibenion hyn, byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n cael eich caniatâd penodol i’w chasglu a’i chofnodi, ac yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch dynnu’ch cydsyniad yn ôl os byddwch chi’n newid eich meddwl.
Pa Wybodaeth Bersonol y byddwn ni’n ei chasglu amdanoch ac at ba ddibenion y byddwn yn ei defnyddio
Yr unig ddata personol y byddwn ni’n ei gasglu gennych yw’r wybodaeth y dewiswch ei darparu.
Gallwn gasglu Gwybodaeth Bersonol gennych trwy’r dulliau canlynol:
Mae’r Wybodaeth Bersonol y gallwn ei chasglu gennych yn cynnwys:
Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth bersonol yma i:
Gwirfoddolwyr yn ein Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr
Os ydych chi’n wirfoddolwr yn ein canolfannau atyniadau ymwelwyr, gallwn gasglu’r Data Personol canlynol amdanoch:
Rydyn ni’n defnyddio darparydd trydydd parti o’r enw Team Kinetic, a nhw yw’r darparydd sy’n lletya’r datrysiad rheoli gwirfoddolwyr. Gellir casglu’r data personol canlynol amdanoch trwy ddatrysiad rheoli gwirfoddolwyr Team Kinetic:
Byddwn ni’n casglu eich gwybodaeth bersonol trwy’r dulliau canlynol:
Sut y byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth bersonol yma:
Meysydd parcio
Mae system awtomatig i ddarllen rhifau cofrestru cerbydau’n gweithredu ym meysydd parcio ein Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr er mwyn galluogi ymwelwyr i glustnodi eu cerbydau wrth dalu am barcio. Trydydd parti sy’n darparu’r gwasanaeth hwn ac mae arwyddion sy’n rhoi gwybodaeth bellach am hyn ar ein safleoedd. Rydyn ni’n casglu gwybodaeth ddienw ar ffurf gyfanred drwy’r system yma i’n cynorthwyo â’n harlwy o ran gwasanaethau, rheoli niferoedd a gofynion staffio, a rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae gennym gyfleusterau gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio ein Canolfannau Ymwelwyr er mwyn caniatáu i ymwelwyr wefru eu cerbydau trydan. Trydydd parti sy’n darparu’r gwasanaeth hwn hefyd, ac mae yna arwyddion ar y safleoedd sy’n cynnig rhagor o wybodaeth yn hyn o beth.
CCTV a Theclynnau Fideo Gwisgadwy
Mae CCTV yn gweithredu yn ein Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr felly gallech gael eich recordio wrth ymweld â ni. Mae yna arwyddion pwrpasol i’ch hysbysu pan rydych chi’n dod i ardal sydd dan oruchwyliaeth CCTV. Cedwir delweddau CCTV am 30 diwrnod cyn eu dileu (oni bai bod yna reswm busnes ddilys dros eu cadw am gyfnod hwy).
Rydyn ni’n defnyddio Teclynnau Fideo Gwisgadwy ar ein safleoedd hefyd er mwyn helpu i atal, ymchwilio i, a chanfod troseddau, ac er mwyn adnabod ac erlyn troseddwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o CCTV neu Declynnau Fideo Gwisgadwy, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Dŵr Cymru.
Dronau
Weithiau rydyn ni’n defnyddio dronau i fonitro, cynnal a/neu wella ein tiroedd, ein hasedau a’n prosesau. Peilotiaid CAA cymwys sydd naill ai yng nghyflogaeth Dŵr Cymru neu’n gontractwr trydydd parti i’r cwmni fydd yn hedfan y dronau hyn. Ein nod yw osgoi hedfan dronau’n union dros ben neu o fewn 50 metr i bobl, cerbydau, cychod neu eiddo. Mae safleoedd SoDdGA yn rhan o’n Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr ac mae’n bosibl y bydd yna eithriadau penodol i amddiffyn bywyd gwyllt yn yr ardaloedd hynny (e.e. y gweilch yn Llyn Brenig).
Arolygon Ymwelwyr
Rydyn ni’n cyflawni arolygon o’r ymwelwyr â’n Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr i’n cynorthwyo i deilwra ein digwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau at anghenion ein hymwelwyr, a gwella ein harlwy. Mae’r data yma’n cael ei gasglu wrth ymadael â safleoedd ein hatyniadau, a hynny gan gwmni trydydd parti o’r enw BDRC Group. Yr unig ddata personol y byddant yn ei gasglu gennych yw’ch Cyfeiriad IP a’ch cyfeiriad e-bost (lle’r ydych chi’n darparu eich cyfeiriad e-bost yn wirfoddol, er mwyn i BDRC anfon copi o ddata’r arolwg atoch chi). Defnyddir eich Cyfeiriad IP i atal twyll, ni fydd chaiff ei gysylltu â chi na data’r arolwg mewn unrhyw ffordd.
Gallwn ddefnyddio trydydd parti, neu ein gweithwyr ni ein hunain, i helpu i gysylltu â’n cwsmeriaid i gyflawni arolygon o foddhad cwsmeriaid neu brosesau ymgysylltu. Rydyn ni’n dibynnu ar ein buddiannau dilys i wneud hynny. Os byddai’n well gennych beidio â chymryd rhan, dywedwch wrthym, naill ai trwy anfon e-bost atom yn: DataProtectionOfficer@dwrcymru.com neu trwy ysgrifennu atom yn: Swyddog Diogelu Data, Dŵr Cymru Welsh Water, Linea, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0LT.
Dylid nodi na fydd hyn yn atal cysylltiadau at ddibenion darparu ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff na gwasanaethau ein rheoleiddiwr.
Cwcis
Gweler y Polisi Cwcis ar ein gwefan am fanylion ein defnydd o cwcis https://elan-valley.co.uk/polisi-cwci/
Adborth
Ymwelwyr. Gallwch ddarparu adborth trwy gysylltu â welshwateradventures@dwrcymru.com
Ymhle y byddwn ni’n storio eich Gwybodaeth Bersonol a sut rydym yn ei chadw’n ddiogel
Cedwir rheolaeth dynn ar fynediad at ein systemau. Rydyn ni’n gweithredu diogelwch ffisegol tynn ar ein holl safleoedd hefyd, ac mae’r holl staff yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth am ddiogelwch a diogelu data.
Lle byddwn ni’n trosglwyddo gwybodaeth i drydydd parti iddynt ei phrosesu ar ein rhan, rydyn ni’n sicrhau bod darparwyr yn bodloni neu’n rhagori ar y gofynion cyfreithiol neu reoliadol perthnasol o ran trosglwyddo data iddynt a’i gadw’n ddiogel.
Mae hi’n bosibl y bydd angen i ni drosglwyddo eich Gwybodaeth Bersonol y tu hwnt i Ardal Economaidd Ewrop (AEE). Mae’n bosibl na fydd gan y gwledydd hyn yr un cyfreithiau Diogelu Data â’r DU ac AEE ac na fydd eich Gwybodaeth Bersonol yn cael yr un amddiffyniad felly. Fodd bynnag, mewn achosion o’r fath, byddwn ni’n sicrhau bod unrhyw Wybodaeth Bersonol sy’n cael ei throsglwyddo i wledydd y tu hwnt i AEE yn cael yr un amddiffyniad priodol â phe bai’n cael ei phrosesu yn AEE ac o dan yr egwyddorion arweiniol a bennir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd yma.
Am ba hyd y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth
Ni fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth yn fwy nag sydd ei hangen at ddibenion prosesu. Er enghraifft, cedwir gwybodaeth ariannol am 6 + 1 blwyddyn yn unol â’r rheoliadau ariannol perthnasol.
Caiff unrhyw ddelweddau neu ddata a gesglir ar ein CCTV eu dileu cyn pen 30 diwrnod oni bai bod yna reswm busnes dilys i’w cadw.
Penderfyniadau a phroffilio awtomatig
Ar hyn o bryd, nid ydym yn cyflawni unrhyw benderfyniadau’n awtomatig yn ôl diffiniad y cyfreithiau Diogelu Data.
Eich Hawliau Diogelu Data
Mae gennych rai hawliau penodol mewn perthynas â’ch Gwybodaeth Bersonol, a gallwch wneud gwahanol fathau o Geisiadau Hawliau Testun Data mewn perthynas â’r Wybodaeth Bersonol sydd gennym amdanoch chi. Hwyrach na fydd yr holl hawliau hyn yn berthnasol o dan yr holl amgylchiadau, ond byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n delio ag unrhyw gais sy’n dod i law mewn ffordd sy’n amddiffyn eich hawliau a’ch rhyddid, ac sy’n cydymffurfio â’r cyfreithiau Diogelu Data.
Os hoffech wneud Cais Hawliau Testun Data:
E-bostiwch ni yn: DataSubjectRightsRequests@dwrcymru.com;
Ysgrifennwch atom yn: Gwasanaethau Cwsmeriaid, Y Tîm Ceisiadau Hawliau Testun Data, Dŵr Cymru Welsh Water, Linea, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0LT; neu
Cliciwch yma i gael copi o’n ffurflen Gais Hawliau Testun Data.
Gall unrhyw unigolion y mae gennym wybodaeth amdanynt gyflwyno Cais Hawliau Testun Data. Gall trydydd parti wneud cais ar ran unigolyn (e.e. perthynas, ffrind, cyfreithiwr), ond bydd arnom angen cydsyniad yr unigolyn o dan sylw cyn y gallwn ddarparu unrhyw Wybodaeth Bersonol amdanynt i drydydd parti.
O dan amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawl o dan y gyfraith:
Ni fydd angen i chi dalu ffi i gyrchu eich Gwybodaeth Bersonol (nac i ymarfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, gallwn godi ffi resymol arnoch os nad oes sail glir i’ch hawl i’w chyrchu neu os yw’n ormodol. Fel arall, gallwn wrthod cydymffurfio â’r cais o dan amgylchiadau o’r fath.
Mae hi’n bosibl y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i’n helpu ni i gadarnhau pwy ydych chi ac i sicrhau eich hawl i gyrchu’r wybodaeth (neu i ymarfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mesur diogelwch priodol arall yw hwn i sicrhau nad yw Gwybodaeth Bersonol yn cael ei datgelu i unrhyw berson nad oes ganddynt yr hawl i’w derbyn.
Mae gennych chi’r hawl hefyd i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheoleiddiwr diogelu data’r DU. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef https://ico.org.uk/.
Diweddaru ein Hysbysiad Preifatrwydd
Byddwn ni’n diweddaru ein Hysbysiad Preifatrwydd wrth i’n prosesau a’n gweithdrefnau busnes, a/neu’r cyfreithiau Diogelu Data, newid. Bydd y fersiwn ddiweddaraf ar ein gwefan bob amser.
Hysbysiad Preifatrwydd y Cwsmer
I gael gwybodaeth am sut rydyn ni’n trin data personol cwsmeriaid Dŵr Cymru, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid sydd ar gael trwy ddilyn y linc yma: https://corporate.dwrcymru.com/cy/legal-privacy/privacy-policy.