Mae tymor pysgota’r cronfeydd yn rhedeg rhwng Mawrth a Hydref.
Mae taflen wybodaeth a hawlenni pysgota ar gael o’r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae pysgota ar Afonydd Gwy, Elan a Marteg yn ogystal â Llyn Llyngwyn yn cael ei reoli gan Gymdeithas Bysgota Rhaeadr Gwy a Chwm Elan.
Cysylltwch ar 01597 810383 neu ewch i www.rhayaderangling.co.uk
Mae angen trwydded bysgota ar unrhyw bysgotwyr dros ddeuddeg oed yng Nghymru. Mae’r rhain ar gael o Swyddfeydd Post neu ar lein. Ni chewch hawlen i bysgota heb drwydded bysgota. Am fanylion trwyddedi pysgota, ewch i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae tri math o hawlen ar gael.
Mae hyn yn cwmpasu 35 km o lannau Cronfeydd Cwm Elan (Caban Coch, Garreg Ddu, Pen y Garreg a Chraig Goch), ac eithrio ardal fechan o ardal gadwraeth ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt rhwng Pont Penbont ac Argae Pen y Garreg. Dim ond pysgota â phlu a ganiateir yn y cronfeydd hyn. Pris: £12 y dydd, £4 hawlen iau (o dan 18 oed). Mae tocynnau tymor ar gael hefyd.
Mae’r tymor pysgota brithyll yn rhedeg rhwng 3 Mawrth a 30 Medi. Mae’r tymor pysgota bras yn rhedeg rhwng 16 Mehefin ac 14 Mawrth. Rhaid dilyn canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd o ran yr abwyd a ganiateir ar yr afonydd. Ni chaniateir defnyddio cynrhon. Canateir pysgota ar Afon Claerwen i lawr o Argae Claerwen i’r bont sy’n cludo’r ffordd dros Gronfa Dol y Mynach. Pris: £10 y dydd, £3 i bobl ifanc (dan 18 oed). Mae tocynnau tymor ar gael hefyd.
Caniateir pysgota â phlu yn unig ar hyd lan 20 km Cronfa Ddŵr Claerwen, ac eithrio’r rhan fach o ardal gadwraeth i bysgod a bywyd gwyllt sydd ym mhen uchaf y gronfa, a’r holl nentydd sy’n bwydo Cronfa Claerwen a’r llynnoedd tir uchel heblaw am Llyn Gwngu, Llyn Fyrddon Fach, Llyn Fyrddon Fawr a Llyn Du. Pris: £10 y dydd, £4 iau (dan 18 oed), mae tocynnau tymor ar gael hefyd.
Ni chewch hawlen bysgota ar gyfer Ystâd Elan heb ddangos Trwydded Bysgota Ddilys gan Asiantaeth yr Amgylchedd i Bysgota am Eogiaid a Brithyll neu dystiolaeth o’ch oedran os ydych chi’n 11 oed neu’n iau.
Nid oes unrhyw hawlenni ar gael ar gyfer Cronfa Dol y Mynach.
Darllenwch yr holl reoliadau am hawlenni cyn pysgota.
Ni chaniateir gwersylla na chynnau tân.
Ni chaniateir cychod na thiwbiau arnofio.
Mae yna ddeuddeg Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o Ystâd Elan. Mae’n Ardal Cadwraeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt Ewrop ac Ardal Amgylcheddol Sensitif Mynyddoedd Cambria. Rhaid i bysgotwyr, fel unrhyw ymwelwyr eraill ag Ystâd Elan, beidio â gadael sbwriel nac ymddwyn mewn ffordd a fyddai’n cyfaddawdu cadwraeth bywyd gwyllt, y cyflenwad dŵr neu waith ffermio.