Serydda - Elan Valley - Welsh Water

Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol

Serydda

yng Nghwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Awyr Dywyll a Serydda


Mae Cwm Elan yn atyniad ymwelwyr poblogaidd i seryddwyr.

Yn 2015, llwyddodd Ystâd Cwm Elan i ennill statws Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol a hi oedd y parc cyntaf yn y byd sydd dan berchnogaeth breifat ond sy’n agored i’r cyhoedd i wneud hynny.

Dyfarnodd y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) statws tier arian i’r ystâd, sy’n golygu bod 45,000 erw cyfan Cwm Elan wedi eu hamddiffyn rhag llygredd golau. Mae amddiffyniad Awyr Dywyll yn fuddiol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghwm Elan, yn ogystal ag ymwelwyr. Mae’r statws yn darparu lloches i’r bywyd gwyllt a’r byd natur a geir ddydd neu nos ar draws yr ystâd. Mae lleihau llygredd golau’n lleihau defnydd a chostau ynni hefyd.

Ble i Serydda

Parcio Claerwen

SN: 870 633

Darlleniadau Cyfartalog o Fesurydd Ansawdd yr Awyr: 21.47 MPSAS / 6.37 NELM

Parcio Craig Goch

SN: 894 686

Darlleniadau Cyfartalog o Fesurydd Ansawdd yr Awyr: 21.52 MPSAS / 6.39 NELM

Argae Claerwen

SN: 870 635

Darlleniadau Cyfartalog o Fesurydd Ansawdd yr Awyr: 21.47 MPSAS / 6.37 NELM

Pont Ar Elan

SN 902 715

Darlleniadau Cyfartalog o Fesurydd Ansawdd yr Awyr:  21.54 MPSAS / 6.40 NELM

Pyllau Teifi

SN: 792 675

Darlleniadau Cyfartalog o Fesurydd Ansawdd yr Awy: 21.66 MPSAS / 6.46 NELM

* Mesuriadau o oleuedd yw MPSAS (Maint fesul Eiliad Arc Sgwar) a NELM (Maint Goleuedd i’r Llygad Noeth). Gweler Graddfa  Bortle am ragor o wybodaeth.

Am glywed rhagor?


Darllenwch ein Canllaw Awyr Dywyll i Fryniau Cambria i ymgyfarwyddo ag awyr y nos a chael awgrymiadau am serydda llwyddiannus.

Rhannwch eich Lluniau


Byddai’n hyfryd gweld eich ffotograffau awyr dywyll o Gwm Elan – croeso i chi eu rhannu  â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram #parcawyrdywyllcwmelan

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU