Cyfeiriannu - Elan Valley - Welsh Water

Cyrsiau

Cyfeiriannu

Newydd

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Cyfeiriannu


Mae cyfeiriannu’n gamp awyr agored hwyliog sy’n addas i bobl o bob oedran a lefel ffitrwydd, ac mae’n ymarfer y corff a’r meddwl!


Mae’n gofyn i chi ffeindio’ch ffordd o gwmpas llwybr penodol gan ddarllen map cyfeiriannu er mwyn dod o hyd i bwynt penodol a’i gofnodi cyn symud ymlaen i chwilio am y pwynt nesaf.

Mae Cwm Elan a’r Clwb Cyfeiriannu Canolbarth wedi creu dau gwrs cyfeiriannu newydd sy’n addas i ddechreuwyr a theuluoedd. Mae’r ddau gwrs yn dilyn llwybrau sy’n bodoli eisoes o gwmpas Coedwig y Cnwch.

Mae mapiau diddos a chyfarwyddiadau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr unrhyw bryd yn ystod oriau agor. Gallai cwmpawd fod yn fuddiol, ond nid yw’n hanfodol. Argymhellir gwisgo esgidiau cadarn.


Am glywed rhagor?

Gwyliwch y fideo hwylus yma sy’n dangos sut mae cyfeiriannu.

Dewiswch eich cwrs cyfeiriannu


Mae dau gwrs newydd yng Nghoedwig y Cnwch sy’n addas i deuluoedd a dechreuwyr.

Cwrs 1

1.3km / 0.8 milltir Cylch byr o hyd o gwmpas Coedwig y Cnwch. Mae’r llwybr yma’n weddol wastad er ei fod yn croesi ychydig o dir garw. Y sialens ychwanegol gyda’r cwrs hwn yw bod angen cofnodi llythyren olaf pob pwynt rheoli er mwyn sillafu enw dau aderyn ysglyfaethus a welir yng Nghwm Elan.

Cwrs 2

3.6km / 2.2 milltir Cwrs hirach o hyd sy’n dringo i ben argae Caban Coch, yn parhau trwy Goedwig y Cnwch a Phentref Elan cyn gorffen yn y Ganolfan Ymwelwyr.

Rhannwch eich lluniau


Byddai’n dda gennym weld lluniau o’ch anturiaethau cyfeiriannu yng Nghwm Elan – croeso i chi eu rhannu â ni ar  FacebookTwitter neu Instagram #cyfeiriannu

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU