Os ydych chi’n newyddiadurwr/cwmni’r cyfryngau a hoffai ymweld â ni neu ysgrifennu amdanom, neu os oes gennych ymholiad i ni, cliciwch ar yr eiconau isod i ganfod pwy y mae angen cysylltu â nhw ag ymholiadau’r wasg.
Gydag ymholiadau’r cyfryngau am Atyniadau Ymwelwyr Dŵr Cymru, cysylltwch â
Rydyn ni wedi bod yn falch o groesawu nifer gynyddol o ffotograffwyr, pobl sy’n gwneud ffilmiau ac asiantaethau sy’n chwilio am leoliad gwahanol. Ein hamrywiaeth o dirweddau godidog sy’n eu denu yma. Mae rhannau o’r Ystâd yn arw ac yn anghysbell yn debyg i Ucheldiroedd yr Alban. Mae gennym olygfeydd tebyg i Ardal y Llynnoedd mewn mannau hefyd. Ychwanegwch yr argaeau bendigedig at hynny ac mae gennych chi’r cefndir delfrydol i greu ffilm, hysbyseb neu lansio cynnyrch. A gallech gael eich siomi ar yr ochr orau gan ba mor agos ydym ni!
Mae’r BBC wedi ein defnyddio ni i ffilmio Top Gear, ac am olygfeydd o’r ddrama hanesyddol The Game. Ffilmiodd The Game olygfeydd ar lan Caban Coch dros gyfnod o ddau ddiwrnod ym mis Medi 2013. Defnyddiwyd y Ganolfan Ymwelwyr fel pencadlys a chafodd y criw gymorth gan ein staff ar ffurf cludiant o gwmpas yr ystâd mewn cerbydau 4×4. Mae delweddau o’r gwaith ffilmio isod.
Os ydych chi’n credu y gallai Elan weddu i’ch prosiect chi, cysylltwch â welshwateradventures@dwrcymru.com
Gydag ymholiadu eraill am Ddŵr Cymru gan y Cyfryngau a’r Wasg, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg.
Swyddfa’r Wasg sy’n delio â holl ymholiadau’r cyfryngau am Ddŵr Cymru a’n gwaith hanfodol.
Mae’r swyddfa ar agor 24/7, ac oriau craidd y swyddfa yw 8am-6pm.
Caiff unrhyw ymholiadau y tu allan i oriau swyddfa arferol eu cyfeirio at Swyddog y Wasg sydd ar ddyletswydd.
Os ydych chi’n gwsmer i Ddŵr Cymru ac am siarad â rhywun am broblem gyda’ch bil, eich cyflenwad dŵr neu’ch gwasanaeth dŵr gwastraff, cliciwch ar y ddolen isod.