Nawr yw’r amser i ddechrau cynllunio ymweliad arbennig ar gyfer eich grŵp. Dewch i grwydro tirweddau gwyllt a phensaernïaeth hanesyddol Cwm Elan.
Os oes gennych gwmni teithiau bws, beth am ein hychwanegu ni ar eich rhestr o lefydd i aros yng y Canolbarth? Mae Cwm Elan yn cynnig teithiau gyda thywysydd ar yr ystâd, gan gynnwys <i>y tu fewn i> Argae Pen y Garreg. Yn ogystal, mae gennym barc bysys mawr, mae mynediad am ddim ac rydyn ni ar agor trwy gydol y flwyddyn. Gellir darparu lluniaeth am ddim i yrwyr y bysys ac arweinwyr y teithiau hefyd.
Rydyn ni’n cynnig pecynnau wedi eu teilwra ar gyfer ysgolion ar amrywiaeth o bynciau, ac mae rhywbeth sy’n addas i bob oedran. Beth am ddysgu am y cylch dŵr wrth sefyll ar ganol argae? Neu ymweld â’n pwll a’n hardal bwystfilod bach pwrpasol sy’n ddelfrydol i ddisgyblion ysgol gynradd!
Rydyn ni’n croesawu grwpiau Brownis, Geidiaid, Cybiau a Sgowtiaid, Dug Caeredin, Merched y Wawr, u3a a phawb yn y canol.
I gael copi o’n Pecyn manwl i Weithredwyr Bysys neu i wneud ymholiadau eraill, e-bostiwch rangers.elan@dwrcymru.com neu ffoniwch 01597 810880.
I sicrhau ymweliad didrafferth, gofynnwn i bob grŵp fwcio o leiaf pythefnos cyn dod. Rhaid bwcio ymweliadau ar gyfer grwpiau mawr os gwelwch yn dda.
Am fod y ffyrdd a’r lonydd ar yr ystâd yn gul, dylai bysys dilyn y llwybr o gwmpas yr ystâd gyda’r cloc.
Gallwch fwcio ymweliadau grŵp â’n hatyniadau ymwelwyr eraill sef Llys-y-frân (Sir Benfro), Llyn Llandegfedd (ger Casnewydd) a Llyn Brenig (Conwy) hefyd. Mae’r manylion ar ein tudalen Anturiaethau Dŵr Cymru.