Mae Cwm Elan yn lle bendigedig i ymweld ag ef trwy gydol y flwyddyn, ond mae yna gymaint yn fwy i’w weld ar stepen ein drws.
Mae’r Canolbarth yn lle gwych i ddianc rhag y cyfan. Gyda dau Barc Cenedlaethol o’r neilltu iddi, a thraethau prydferth, gwarchodfeydd awyr dywyll o fri rhyngwladol, ac unig Warchodfa Biosffer UNESCO Cymru (Dyfi), mae’r rhanbarth yn llawn dop o atyniadau sy’n denu ymwelwyr ar bob adeg o’r flwyddyn.
Dark sky stargazing, nature reserves and taking time out to appreciate the little things… O Fachynlleth i Lanymddyfri, mae Mynyddoedd Cambria’n eich disgwyl chi. Mae cysylltiadau hanesyddol i lawer o’r llwybrau cerdded – gallwch ddilyn yn olion traed y porthmyn, beirdd rhamantaidd y 18fed ganrif, neu hyd yn oed ddilyn llwybr y mynachod canoloesol rhwng Mynachdy Strata Florida ac Abaty Cwm-hir
Tafliad carreg o Elan, Rhaeadr Gwy yw tref hynaf y Canolbarth a ‘Phrifddinas Gweithgareddau Awyr Agored Cymru’. I’r gogledd, mae Llanidloes sy’n teimlo’n bell o brysurdeb bywyd modern. I’r de, mae tref farchnad brysur Llanfair-ym-muallt, cartref Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae dwy amgueddfa yn nhref ffynnon Llandrindod sydd gerllaw, Amgueddfa Sir Faesyfed a’r Amgueddfa Feics Genedlaethol.
Pumlumon yw pwynt uchaf Bryniau Cambria yng Nghymru. Mae’r gyfres yma o fryniau’n dominyddu cefn gwlad gogledd Ceredigion. Y copa uchaf yw Pen Pumlumon Fawr, sy’n sefyll 752 metr (2,467 tr) uwch lefel y môr. Mae tarddiad afon hiraf Prydain, afon Hafren, ar y mynydd, ynghyd ag afonydd Gwy a Rheidol.
Lleoliad rhaeadrau bendigedig wrth galon Bryniau Cambria yn y Canolbarth yw Pontarfynach. Mewn ceunant coediog hynafol dwfn, mae’r lle wedi denu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ers y 18fed Ganrif, gan gynnwys William Wordsworth a ysgrifennodd am y ‘Torrent at the Devil’s Bridge’.
Fel llwybr hir mwyaf ymestynnol Cymru sy’n llawn golygfeydd godidog, mae Llwybr Cambria’n rhedeg rhwng Caerdydd a Chonwy. Mae’r llwybr yn rhedeg ar gyrion ystâd Cwm Elan gan ddilyn ymyl gorllewinol y rhostiroedd gwyllt a choedwig Elenydd.
Mae ffordd y mynydd rhwng Rhaeadr Gwy ac Aberystwyth yn croesi Llwybr Cambria ym Mhontarfynach. Yn rhan o’r llwybr coetsys hanesyddol o Lanllieni, mae’n rhedeg trwy ben gogleddol Cwm Elan ac mae’r llwybr ymhlith deg uchaf y byd o ran golygfeydd yn ôl yr AA. Ar ôl cyrraedd Aberystwyth, dilynwch y Llwybr Arfordirol naill ai tua’r de i Dyddewi neu tua’r gogledd i Aberdaron.