Mae Ystâd Elan ym mherchnogaeth Dŵr Cymru. Breiniwyd rhan helaeth ohoni yn Ymddiriedolaeth Cwm Elan o dan brydles 999 mlynedd.
Prif swyddogaeth yr ystâd yw darparu cyflenwadau dŵr glân – mae hynny’n golygu bod yr ardal gyfan yn cael ei rheoli mewn ffordd sy’n llesol i’r amgylchedd er mwyn amddiffyn ansawdd y dŵr. Mae’r ardal yn dod o fewn Ardal Amgylcheddol Sensitif (AAS) Bryniau Cambria, mae’n Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar gyfer adar gwyllt, mae ganddi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) o ran ei chynefinoedd, ac mae’r rhan fwyaf o’r tir wedi cael ei ddynodi’n amryw o Safleoedd o Ddiddordeb Arbennig (SoDdGA).
Rydyn ni’n gwerthfawrogi arwyddocâd y dynodiadau hyn ac yn cyflogi tîm o Ofalwyr Cefn Gwlad i gyflawni gwaith mynediad, rheoli a chynnal cynefinoedd, ac er mwyn helpu’r cyhoedd i fwynhau hanes a phrydferthwch naturiol yr ardal.
Mae Cwm Elan yn ardal o harddwch naturiol ond yn un sydd wedi cael ei llunio gan ddyn hefyd. Tirwedd fyw yw hi, i bob un ohonom ei mwynhau a’i diogelu gyda’n gilydd.
Dŵr Cymru yw’r mwyaf ond pump o ddeg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig Cymru a Lloegr. Gyda chyfrifoldeb dros ddarparu cyflenwadau parhaus o ddŵr yfed o safon uchel ar gyfer dros dair miliwn o bobl, ac am gludo’r dŵr gwastraff a gynhyrchir i ffwrdd a’i drin a’i waredu mewn ffordd briodol, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf am y gost isaf bosibl.
Mae Dŵr Cymru yn eiddo i Glas Cymru cwmni cyfyngedig drwy warant. Fel cwmni nid-er-elw, nid oes unrhyw gyfranddalwyr gan y cwmni, ac mae’n unigryw yn y sector dŵr a charthffosiaeth am ei fod yn cael ei redeg yn llwyr er budd ei gwsmeriaid.
Os oes gennych ymholiadau am: Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan, yr argaeau a’r cronfeydd, y coetiroedd a Llwybr Cwm Elan, cysylltwch â Dŵr Cymru yn:
Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan
Cwm Elan
Rhaeadr Gwy
Powys LD6 5HP
Ffôn: +44 (0)1597 810880
E-bost: elanrangers@dwrcymru.com
Gynt Ymddiriedolaeth Elan Dŵr Cymru; Rhif Elusen 1001347, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cwm Elan gan Ddŵr Cymru Welsh Water trwy gytundeb â’r Llywodraeth ym 1989. Ei hamcanion yw hybu cadwraeth, mynediad cyhoeddus priodol a lledaenu gwybodaeth am yr ystâd.
Mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn gyfrifol am weinyddu’r rhan fwyaf o’r ystâd 72 milltir sgwâr fel landlord 28 o ffermydd a 38 o dai, ac am ffermio wyth bloc o dir mewn llaw (mwy na 7,000 erw i gyd), a chynnal cyfleusterau cyhoeddus, bythynnod gwyliau a’r ystâd yng Nghymoedd Elan a Chlaerwen.
Os oes gennych ymholiadau am dir y bryniau agored (gan gynnwys defaid a gwartheg), Pentref Elan, y ffermydd a’r llety hunanddarpar, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn:
Swyddfa Ystâd Elan
Pentref Elan
Rhaeadr Gwy
Powys LD6 5HP
Ffôn: +44 (0)1597 810449
Ffacs: +44 (0)1597 811276
E-bost: estateoffice@elanvalley.org.uk
I gael rhagor o fanylion am Ymddiriedolaeth Cwm Elan, ewch i’r wefan.