Partïon Pen-blwydd yn Ne Cymru - Elan Valley - Welsh Water

Achlysuron Arbennig

Dathlu

yn Llyn Llandegfedd

Mae mynediad i Lyn Llandegfedd am ddim

Gan Dŵr Cymru

Partïon Pen-blwydd yn Llyn Llandegfedd


Mae Pen-blwyddi yn Llandgfedd yn chwa o awyr iach.

Os ydych chi’n chwilio am ffordd wreiddiol, creadigol, hwyliog ac iachus o ddathlu pen-blwydd eich plentyn, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Rydyn ni’n darparu ar gyfer partïon plant o bob oedran a’n nod bob tro yw cymryd baich y gwaith trefnu oddi ar eich ysgwyddau.

Gyda llwyth o le awyr agored i’w fwynhau ac ystafell barti wedi ei haddurno, byddwn ni’n sicrhau fod pen-blwydd eich plentyn yn un i’w gofio. Cewch eich croesawu gan aelod penodol o staff a fydd yn gofalu am eich criw trwy gydol y parti.

Byddwn ni’n arwain gweithgareddau awyr agored ar y dŵr ac ar dir sych, fel sorbio dŵr, adeiladu rafftiau, saethyddiaeth neu golff bach.

Dewiswch eich Pecyn


Pecynnau Parti

Gyda chymaint ar gael, gallwch greu eich pecyn parti pen-blwydd perffaith gan ychwanegu gweithgareddau ar dir sych neu ar y dŵr, ystafell parti wedi ei haddurno i chi a neb arall ei defnyddio a bwyd parti. Croeso i chi ddod â’ch cacen eich hun, neu cysylltwch â ni ymlaen llaw i ni wneud cacen i chi at eich dant, gyda digon i bawb yn y criw! Mae parcio am ddim i’r gwesteion, yr holl sgwash ac (yn naturiol) dŵr sydd ei hangen arnoch a’r holl awyr iach y gallwch ei anadlu!

Parti Byd Dŵr

Mae’r pecyn pen-blwydd yma’n addas i bobl 8+ oed ac mae’n cynnwys 2 awr o’r gweithgaredd ar y dŵr. Dewiswch o blith canwio, caiacio, adeiladu rafftiau, rhwyf-fyrddio neu bedalfyrddio. Mae’r sesiynau’n seiliedig ar o leiaf 8 plentyn ac maen nhw’n cynnwys: yr holl offer diogelwch angenrheidiol, hyfforddwr cymwys a gallwn warantu gwên o glust i glust. I ddilyn, bydd bwydydd blasus wedi eu paratoi gan ein tîm arlwyo mewnol. Cofiwch archebu’r gacen ymlaen llaw!

Sorbio

Erioed wedi meddwl sut mae bochdew mewn pêl yn ei deimlo ar y dŵr? Wel dyma’ch cyfle! Os dewiswch chi Sorbio, bydd y criw pen-blwydd yn cymryd eu troeon i fynd mewn Sorb awyr mawr a cheisio cerdded ar y dŵr – yn llythrennol. Llwyth o hwyl, ac ymarfer corff bendigedig. Profiad pen-blwydd bythgofiadwy!

Achlysuron Arbennig

Rydyn ni’n cynnal achlysuron arbennig ar gyfer oedolion hefyd. Os ydych chi’n trefnu parti bwmp, parti pen-blwydd priodas neu aduniad, gallwch weithio gyda’n cynllunwyr parti arbenigol i greu parti pen-blwydd neu becyn achlysur arbennig sydd at eich dant.

Manylion Bwcio


Cysylltwch â chynlluniwr parti heddiw i greu eich dathliad perffaith trwy roi galwad i ni ar 01633 373401 neu e-bostio llandegfedd@dwrcymru.com

Noder
Mae partïon ac achlysuron yn amodol ar Ganllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru sydd mewn grym ar y pryd.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU