Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein gwaith i atgyweirio Ceunant y Diafol yng Nghwm Elan wedi’i gwblhau a bod y Ceunant ar agor unwaith eto i’r cyhoedd.
Roedd y gwaith, a wnaed gan y contractwyr arbenigol Colin Jones Rock Engineering Ltd, yn cynnwys diraddio ffurfiant y graig, angori a bolltio’r graig, ynghyd ag ychwanegu rhwydi creigiau.
Mae ein contractwyr wedi gweithio’n galed ers dechrau Ionawr 2023 i gwblhau’r gwaith hwn ac wedi gorffen wythnosau yn gynt na’r disgwyl.
Hoffem ddiolch i aelodau o gymuned Cwm Elan am fod yn amyneddgar gyda ni tra roedd y Ceunant ar gau am resymau diogelwch ac wrth i ni gwblhau’r gwaith atgyweirio cymhleth hwn.
Rydym yn falch o ailagor y llwybr poblogaidd hwn o heddiw ymlaen (dydd Gwener, 24 Chwefror 2023) i ymwelwyr ei fwynhau unwaith eto.