Llwybr Cerdded - Claerwen a Chraig Cwplau - Elan Valley - Welsh Water

Teithiau Cerdded yng Nghwm Elan

Claerwen a Chraig Cwplau

Llwybr Oren

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Cerdded – Claerwen a Chraig Cwplau


Taith weddol heriol awr o hyd sy’n gylchdaith o gwmpas Craig Cwplau â golygfeydd o ddiffeithwch Cambria ac Argae Claerwen.

Manylion y Llwybr

Dilynwch y saethau oren ar hyd cymysgedd o draciau fferm a llwybrau glaswelltog trwy gaeau a thir bryniog agored. Ceir rhai dringfeydd serth.

Difficulty: Anodd

Distance: 1.5 milltir / 3 cilomedr

Time: 1 awr

Eich Llwybr


Dechrau

Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN870633

1

O’r hysbysfwrdd, cerddwch 50 medr ar hyd y ffordd. Trowch i’r dde ac ewch drwy’r glwyd i ddringo ar hyd ochr y bryn.

2

Parhewch i ddilyn y llwybr wrth iddo droi yn sydyn i fyny’r llethr. Pan fyddwch chi’n cyrraedd y brig, trowch i’r chwith a chroeswch argae Claerwen. Ar yr ochr draw, trowch i’r dde ac ewch drwy’r glwyd i gerddwyr.

3

Dilynwch y llwybr sy’n mynd ar hyd ymyl y gronfa ddŵr ac yna’n gwyro oddi wrth y dŵr i’r chwith. Anwybyddwch y trac sy’n mynd i ffwrdd i’r chwith ar ôl 200 medr. Parhewch i ddilyn yr arwyddion ffordd oren ar y trac.

4

Ar ôl 100 medr, mae’r trac yn troi’n laswellt. Parhewch i ddilyn y llwybr i’r arwydd ffordd nesaf.

5

Wrth y postyn ffordd nesaf, dilynwch y saethau oren i’r chwith i chi. O’ch blaen, byddwch yn gallu gweld disg arwydd ffordd arall yn dilyn trac defaid ar draws frig y bryn. Parhewch i ddilyn yr arwyddion, sydd wedi’u lleoli tua 50-100 medr ar wahân.

6

Ar ben y bryn, mae’r saeth oren yn pwyntio’n lletraws i’ch chwith, felly dewch i lawr o’r bryn. Byddwch yn dechrau cael golygfa o ddoleniadau afon Arban.

7

Mae’r arwydd ffordd nesaf yn pwyntio i lawr y rhiw a byddwch yn gweld dau bostyn arall o’ch blaen. Ewch i lawr y bryn am 100 medr. Pan fyddwch chi’n cyrraedd y gwaelod, dilynwch y saeth i’r chwith.

8

Mae’r arwydd ffordd nesaf ymhen 200 medr. Parhewch i ddilyn hwnnw yn syth drwy’r creigiau wrth i’r llwybr ddechrau disgyn.

9

9 Ymhen 100 medr arall, bydd yr arwydd ffordd yn pwyntio i lawr i’r dde. Dilynwch y llwybr bach hwn yma.

10

Parhewch i ddilyn yr arwydd ffordd nesaf yn syth ymlaen, tuag at y clwydi o’ch blaen chi. Ewch drwy’r glwyd a dilynwch linell y ffens i lawr. Efallai y bydd clwyd fetel sydd ar gau i fynd drwyddi cyn ymuno â’r ffordd. Gofalwch eich bod yn ei chau ar eich ôl.

11

Wrth bont ffordd, parhewch yn syth ymlaen i gwblhau’r cylch a dychwelyd i’r maes parcio.

• LAWRLWYTHO TAFLEN •

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Argae Claerwen i Raeadrau

Taith gerdded ddeugain munud o hyd i raeadr anhygoel â golygfeydd gwych o’r argae fwyaf yng Nghwm Elan.

• I’R LLWYBR •

Llwybr Cwm Elan i Graig Goch

Taith gerdded tair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.

• I’R LLWYBR •

Nant-y-gro

Mwynhewch olygfeydd gwych o Argae a Chronfa Ddŵr Caban-coch a rhyfeddwch at harddwch eiconig Traphont Garreg Ddu ar y daith gerdded ddwy awyr o hyd hon i’r de o’r Ganolfan Ymwelwyr.

• I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU