Llwybr Cerdded Nant-y-gro - Elan Valley - Welsh Water

Teithiau Cerdded yng Nghwm Elan

Llwybr Nant-y-gro

Hanes a Golygfeydd Godidog

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Nant-y-gro


Mwynhewch olygfeydd gwych o Argae a Chronfa Ddŵr Caban-coch a rhyfeddwch at harddwch eiconig Traphont Garreg Ddu ar y daith gerdded ddwy awyr o hyd hon i’r de o’r Ganolfan Ymwelwyr.

Manylion y Llwybr

Dilynwch y saethau gwyrdd ar hyd llwybrau sy’n cynnwys dringfeydd serth, grisiau a llwybrau glaswelltog.

Difficulty: Anodd

Distance: 3 milltir / 5 cilomedr

Time: 2 awr

Eich Llwybr


Dechrau

Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN927646

1

O Ganolfan Ymwelwyr Elan, cerddwch tuag at Argae Caban-coch. Ychydig cyn yr argae, trowch i’r chwith drwy’r glwyd bren a dros y bont islaw’r argae. Yn dibynnu ar faint o ddŵr sydd yn y gronfa, efallai y bydd braidd yn wlyb yma os yw’r dŵr yn rhaeadru i lawr mur yr argae.

2

Ar ôl croesi’r bont, dilynwch y llwybr serth i fyny tuag at ben yr argae. Gofalwch eich bod yn mwynhau’r golygfeydd anhygoel dros yr ehangder o ddŵr ac i fyny’r dyffryn.

3

Trowch i’r dde ar y pen a dilynwch y llwybr caregog wrth ochr y gronfa ddŵr am tua 300 medr cyn dilyn y grisiau i fyny’r llethr. Dilynwch y llwybr ymlaen drwy’r goedwig sy’n edrych dros y gronfa ddŵr iddi wyro tua’r mewndir.

4

Dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y goedwig sy’n edrych dros y gronfa ddŵr. I’r dde i chi mae olion Argae Nant-y-gro a ddefnyddiwyd i brofi ffrwydron a ddefnyddiwyd gan Sgwadron 617 yr Awyrlu Brenhinol, y 'Dam Busters' yn yr Ail Ryfel Byd. Dilynwch y llwybr glaswelltog serth i fyny’r bryn i’r brig.

5

Mae’r llwybr yn troi am i fyny wrth ymyl planhigfa coed conwydd. Mae hwn yn ddarn cymharol serth o tua 300 llath felly cymerwch eich amser a gan gymryd seibiant i gael eich gwynt atoch os byddwch angen!

6

Ar ben uchaf y blanhigfa, mae’r llwybr yn parhau i fyny’r bryn drwy’r rhedyn. Cymerwch seibiant i edrych y tu ôl i chi tua’r gogledd-orllewin i weld golygfeydd ar draws Cronfa Ddŵr Caban-coch i draphont Garreg Ddu, eglwys Nant Gwyllt, Fferm Henfron, yr orsaf trosglwyddydd radio sy’n cael ei bweru gan ynni’r gwynt a’r haul ar Fryn Llanerchi a'r rhostir y tu hwnt.

7

Dilynwch yr arwyddion ffordd heibio grŵp o goed conwydd ac olion Tŷ’n-y-Pant a pharhewch ar hyd y llwybr glaswelltog i fyny’r rhiw. Mae carneddau Drygarn Fawr y tu ôl i chi.

8

Wrth ymyl ael y bryn, gallwch weld pyst concrit ar y naill ochr i’r trac a’r llall sy’n nodi ffin yr ystâd. Parhewch ar hyd y trac ac ewch drwy’r glwyd, i’r trac tarmac i waelod y bryn.

9

Ar y gwaelod, trowch i’r chwith a cherddwch ar hyd y lôn dawel wrth ymyl y coetir tan i chi gyrraedd arwydd ffordd ar ochr dde’r ffordd ar ôl 800 medr.

10

Dilynwch y llwybr troed i lawr y rhiw am 150 medr. Dilynwch y llwybr cyntaf ar y chwith a pharhewch i lawr y rhiw am 20 medr. Trowch i’r chwith eto a chroeswch y bont, yna ewch drwy’r glwyd.

11

Wrth y groesffordd ar ôl 20 medr, ewch yn syth ymlaen ac yna dilynwch y llwybr wrth y ffens. Ewch drwy’r gât mochyn a throwch i’r dde trwy ail glwyd. Croeswch y bont a throwch i’r chwith i gyrraedd rhodfa’r Ganolfan Ymwelwyr.

• LAWRLWYTHO TAFLEN •

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Llwybr Glas Coedwig Cnwch

Mae’r gylchdaith rwydd hon yn cymryd tua hanner awr i’w chwblhau ac yn cynnwys golygfa odidog o Argae Caban-coch.

• I’R LLWYBR •

Golygfa Argae Claerwen

Taith gerdded ugain munud o hyd o amgylch gwaelod yr argae fwyaf a mwyaf newydd yng Nghwm Elan a Dyffryn Claerwen.

• I’R LLWYBR •

Llwybr Cwm Elan i Raeadr

Yn bennaf wastad ag un rhan serth yn unig ger Cwmdauddwr, mae’r daith gerdded 1.5 awr o hyd hon o’r Ganolfan Ymwelwyr i dref gyfagos Rhaeadr yn llwybr poblogaidd.

• I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU