Taith gerdded 1.5 awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr o dref gyfagos Rhaeadr gan ddilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.
Dilynwch Arwydd Ffordd y Barcud ar hyd llwybr tarmac llinellol sy’n bennaf wastad ac yn addas ar gyfer pob defnyddiwr gan gynnwys cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Un rhiw serth ar gyrion Cwmdauddwr yn Nhwnnel Rhaeadr.
Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN927646
O’r Ganolfan Ymwelwyr, ewch i lawr y rhodfa ac ymunwch â’r llwybr ar y chwith cyn y gridiau gwartheg. Mae’r llwybr yn rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd ond ychydig cyn y gyffordd T, croeswch y ffordd a dilynwch y llwybr ar yr ochr dde.
Dilynwch y llwybr gan groesi’r ffordd wrth Faes Gwersylla Elan Oaks.
Dilynwch y llwybr gan groesi’r ffordd wrth Bont Dol-afallen. Mae graddiant y llwybr yn cynyddu wedyn yn Nhwnnel Rhaeadr, cyn disgyn i mewn i Raeadr.
O’r porth cerflun (gan yr artist Reece Ingram), trowch i’r dde a cherddwch i mewn i Raeadr ar gyfer siopau, caffis a mwy.
Taith gerdded 45 munud o hyd yn cylchu i ben Argae Pen y Garreg a thrwy ddwy ochr Coedwig Penbont. Gellir cyflawni’r daith gerdded hon yn y naill gyfeiriad neu’r llall.
• I’R LLWYBR •Mae’r gylchdaith tair awr o hyd, un o rai mwyaf poblogaidd Cwm Elan, yn mynd ag ymwelwyr o amgylch cylchdaith Garreg Ddu trwy goedwigoedd a chaeau godidog.
• I’R LLWYBR •Taith gerdded tair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.
• I’R LLWYBR •