Taith gerdded 45 munud o hyd yn cylchu i ben Argae Pen y Garreg a thrwy ddwy ochr Coedwig Penbont. Gellir cyflawni’r daith gerdded hon yn y naill gyfeiriad neu’r llall.
Dilynwch y saethau porffor ar hyd cymysgedd o lwybrau graean a llwybrau glaswelltog trwy goetir ag ychydig o ddringfeydd a disgynfeydd serth byr.
Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN916674
O’r hysbysfwrdd ac ar ôl y glwyd, trowch i’r chwith. Dilynwch y llwybr (gan gynnwys dwy res o risiau) i ben y bryn. Dilynwch yr arwyddion tua’r dde ac ar hyd y llwybr gwastad am 250m, gan ddilyn ambell i nant fechan a chroesi dwy bont.
Ar ben yr argae, trowch i’r dde a dilynwch yr arwyddion i lawr y grisiau i waelod yr argae.
Ar waelod y grisiau, trowch i’r dde a dilynwch y llwybr am 30m. Ewch i lawr y grisiau ar y chwith i chi a chroeswch y bont, yna trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr nesaf at y ffens.
Ewch i fyny’r grisiau a throwch i’r dde wrth yr arwydd ffordd, gan groesi pont bren fach. Dilynwch y llwybr am 250 medr cyn cyrraedd rhaeadrau hardd a phont.
Croeswch y bont a pharhewch ar hyd y llwybr sy’n gwyro i lawr i’r ffordd. Ewch drwy’r glwyd a chroeswch y bont grom a throwch i’r dde i mewn i’r maes parcio.
Taith gerdded dair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.
• I’R LLWYBR •Taith gerdded 40 munud o hyd i raeadr anhygoel â golygfeydd godidog o’r argae fwyaf yng Nghwm Elan.
• I’R LLWYBR •Mwynhewch olygfeydd gwych o Argae a Chronfa Ddŵr Caban-coch a rhyfeddwch at harddwch eiconig Traphont Garreg Ddu ar y daith gerdded ddwy awyr o hyd hon i’r de o’r Ganolfan Ymwelwyr.
• I’R LLWYBR •