Llwybr Cerdded - Argae Claerwen i Raeadrau - Elan Valley - Welsh Water

Teithiau Cerdded yng Nghwm Elan

Argae Claerwen i Raeadrau

Argae Claerwen i Raeadrau

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Cerdded – Argae Claerwen i Raeadrau


Taith gerdded 40 munud o hyd i raeadr anhygoel â golygfeydd godidog o’r argae fwyaf yng Nghwm Elan.

Manylion y Llwybr

Dilynwch y saethau porffor ar draws caeau neu laswelltir agored yn bennaf â llethrau cymedrol.

Difficulty: Cymedrol

Distance: 1.2 milltir / 2 cilomedr

Time: 40 munud

Eich Llwybr


Dechrau

Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN870633

1

O’r hysbysfwrdd, cerddwch am 50 medr ar hyd y ffordd a dilynwch y saeth borffor ar draws y bont.

2

Chwiliwch am saeth borffor sy’n pwyntio’n lletraws i’r chwith ar bostyn tal y llwybr ceffylau. Ceir clwyd bren o flaen adeilad carreg bach. Ewch drwyddi ac yn syth ar draws dau gae trwy ddwy glwyd arall.

3

Croeswch y bont ac yna dilynwch i saeth i fyny’r rhiw i’r dde. Cadwch lygad allan am byst cyfeirio â’r saethau porffor.

4

Dilynwch y saethau am tua 400 medr cyn cyrraedd gwaelod y rhaeadrau. Mae’r postyn olaf yn dangos saeth sy’n dangos y ffordd yn ôl. Dilynwch y llwybr yn ôl y ffordd y daethoch chi, gan gofio cau’r holl glwydi ar eich ôl.

• LAWRLWYTHO TAFLEN •

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Llwybr Gwyrdd Penbont

Tro glan afon byr i olygfa wych o Argae Pen-y-garreg a ddylai gymryd tua hanner awr ac sy’n cychwyn ym Maes Parcio Penbont.

• I’R LLWYBR •

Cylchdaith Garreg Ddu

Mae’r gylchdaith tair awr o hyd, un o rai mwyaf poblogaidd Cwm Elan, yn mynd ag ymwelwyr o amgylch cylchdaith Garreg Ddu trwy goedwigoedd a chaeau godidog.

• I’R LLWYBR •

Llwybr Porffor Coedwig Penbont

Gellir cyflawni’r daith gerdded hon, sy’n cylchu i ben Argae Pen-y-garreg a thrwy ddwy ochr Coedwig Penbont, yn y naill gyfeiriad neu’r llall mewn tua 45 munud.

• I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU