Taith gerdded 30 munud fer trwy Goedwig Penbont i olygfa wych o Argae Pen-y-garreg.
Dilynwch y saethau gwyrdd ar hyd llwybr graean gwastad sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN916674
O’r hysbysfwrdd yn y maes parcio, dilynwch y saethau gwyrdd yn syth tuag at waelod yr argae.
Mae’r llwybr yn gwahanu ar ôl 130 medr. Parhewch i ddilyn y prif drac i’r chwith gan ddilyn y saethau gwyrdd.
After 170m you’ll have reached the base of the dam. Enjoy the view and turn around the way you came, following the green waymarker arrows to the car park.
Gellir cyflawni’r daith gerdded hon, sy’n cylchu i ben Argae Pen-y-garreg a thrwy ddwy ochr Coedwig Penbont, yn y naill gyfeiriad neu’r llall mewn tua 45 munud.
• I’R LLWYBR •Mae taith gerdded gylchol tair awr o hyd, un o rai mwyaf poblogaidd Cwm Elan, yn mynd ag ymwelwyr o amgylch cylchdaith Garreg Ddu trwy goedwigoedd a chaeau hyfryd.
• I’R LLWYBR •Taith gerdded dair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.
• I’R LLWYBR •