Taith gerdded 20 munud o hyd o gwmpas gwaelod yr argae fwyaf a mwyaf newydd yng Nghwm Elan a Dyffryn Claerwen.
Dilynwch y saethau gwyrdd ar hyd llwybr tarmac sy’n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn.
Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN870633
O’r hysbysfwrdd, cerddwch 50 medr ar hyd y ffordd. Trowch i’r dde ac ewch drwy’r glwyd ar hyd ochr y bryn.
Trowch i’r dde tuag at yr argae gan ddilyn y saethau gwyrdd.
Ar waelod yr argae, trowch i’r chwith a chroeswch y bont. Trowch i’r chwith eto ar ôl y bont, gan ddilyn y llwybr tarmac oddi wrth yr argae.
Wrth y bont ffordd, trowch i’r chwith eto i gwblhau’r cylch a dychwelyd i’r maes parcio.
Tro glan afon byr i olygfa wych o Argae Pen-y-garreg a ddylai gymryd tua hanner awr ac sy’n cychwyn ym Maes Parcio Penbont.
• I’R LLWYBR •Yn bennaf wastad ag un rhan serth yn unig ger Cwmdauddwr, mae’r daith gerdded 1.5 awr o hyd hon o’r Ganolfan Ymwelwyr i dref gyfagos Rhaeadr yn llwybr poblogaidd.
• I’R LLWYBR •Taith gerdded ddeugain munud o hyd i raeadr anhygoel â golygfeydd gwych o’r argae fwyaf yng Nghwm Elan.
• I’R LLWYBR •