Yn cychwyn o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan, mae’r llwybr byr, cymedrol hwn yn mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban-coch.
Mae lonydd tawel y canolbarth yn eich arwain i lwybrau ceffylau Cwm Elan a llwybr o amgylch Cronfa Ddŵr Caban-coch. Mae’r llwybr yn cynnwys croesi ochr y bryn uwchben y gronfa ddŵr; gan ddisgyn yn aml i groesi cyfres o nentydd a ffrydiau bach. Mae rhai disgyniadau mwy serth yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau beicio mynydd.
Mae’r llwybr cylchol rhwydd hwn o 9 cilomedr yn cychwyn o Raeadr ac yn troelli trwy lonydd hyfryd y canolbarth ac yn gorffen i lawr rhiw.
• I’R LLWYBR •Mae’r llwybr 29 cilomedr cymedrol hwn yn cymryd tua thair awr gan eich arwain trwy rannau o ddyffryn Gwy yn ogystal â chwm Elan.
• I’R LLWYBR •Mae’r llwybr 32 cilomedr cymedrol hwn yn cymryd tua thair i bedair awr i’w gwblhau ac yn cynnwys safle hynafol ei enw yn ogystal â bryniau agored a phedair cronfa ddŵr.
• I’R LLWYBR •