Llwybr sy’n cymryd tua awr a hanner i’w gwblhau ac yn cynnwys coetir hynafol a golygfeydd gwych o Gaban-coch.
Gan ddilyn y saethau oren, byddwch yn barod am rai rhannau serth a grisiau.
Map OS Explorer 200 yn cychwyn o SN927646
O’r Ganolfan Ymwelwyr, cerddwch tuag at Argae Caban-coch a chroeswch y bont. Yn dibynnu ar faint o ddŵr sydd yn y gronfa, gallai fod braidd yn wlyb os yw’r dŵr yn rhaeadru i lawr – yn gorlifo – mur yr argae.
Cerddwch o gwmpas tŷ’r tyrbin a throwch i’r chwith, gan ddilyn y saethau glas drwy’r glwyd fetel.
Cerddwch drwy’r goedwig. Pan fydd y llwybr yn gwahanu, dilynwch y llwybr ar y dde gan ddilyn y saethau oren a choch.
Parhewch i ddilyn arwyddion ffordd y llwybr drwy’r goedwig tan i chi gyrraedd croesffordd. Trowch i’r dde i barhau ar y llwybr oren i fyny’r rhiw.
Ar ôl 150 medr, trowch i’r dde (peidiwch â mynd drwy’r glwyd), gan ddilyn y saethau i ben y bryn.
Mae’r llwybr yn gwyro i fyny i’r chwith ac ar ben y bryn dilynwch y llwybr ar hyd llinell y ffens.
Parhewch i gerdded ar hyd llinell y ffens tan i chi gyrraedd mainc a chlwyd. Ewch drwy’r glwyd hon a chlwyd arall tua 15 medr ar y dde. Ar ôl mynd drwy’r glwyd, dilynwch y saethau sy’n pwyntio i lawr y rhiw tuag at yr argae.
Wrth y gyffordd T, ewch i’r chwith a thrwy’r glwyd fetel. Ar ben yr argae, ewch drwy’r glwyd ar y dde i chi ac i lawr y grisiau i dŷ’r tyrbin ar waelod yr argae. Dilynwch y saethau glas i gwblhau’r cylch yn ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae’r gylchdaith rwydd hon yn cymryd tua hanner awr i’w chwblhau ac yn cynnwys golygfa odidog o Argae Caban-coch.
• I’R LLWYBR •Mae’r daith gerdded dwy awr o hyd hon yn cynnwys estyniad i lwybr coetir cylchol Coedwig Cnwch sy’n edrych dros bentref Elan ac yna’n mynd heibio iddo.
• I’R LLWYBR •Mae’r gylchdaith tair awr o hyd, un o rai mwyaf poblogaidd Cwm Elan, yn mynd ag ymwelwyr o amgylch cylchdaith Garreg Ddu trwy goedwigoedd a chaeau godidog.
• I’R LLWYBR •