Llwybr Beicio Mynydd - Cylchdaith Dyffryn Gwy - Elan Valley - Welsh Water

Llwybr Beicio Mynydd

Cylchdaith Dyffryn Gwy

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Beicio Mynydd – Cylchdaith Dyffryn Gwy


Yn cychwyn o Raeadr, mae’r llwybr cymedrol hwn yn cynnwys bryniau agored, coetir brith a thir ffermio gweithredol.

Manylion y Llwybr

O Faes Parcio Cwmdauddwr drwy’r porth cerflun gan yr artist Reece Ingram, dilynwch Lwybr Cwm Elan am tua thair milltir i Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Wrth gwrs, rydym ni’n eich cynghori i fanteisio ar y lluniaeth yma!

Croeswch Afon Elan ar y chwith i chi ac ewch drwy bentref Elan i gyrraedd Ffordd Llanwrthwl. Mae’r daith yn mynd â chi yn uchel ar fynydd Cefn â golygfeydd o Ddyffryn Gwy. Beiciwch trwy goetir, dros fryniau agored a thir ffermio cyn disgyn i lawr i Lwybr Dyffryn Gwy. Ewch tua chydlifiad afonydd Gwy ac Elan a chroeswch y bont i ddychwelyd i Raeadr.

Difficulty: Coch

Distance: 19 cilomedr / 11.8 milltir

Time: 2 awr

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Twyni Golff

Llwybr awr o hyd poblogaidd o anhawster cymedrol sy’n cynnwys disgyniad estynedig i lawr hen gwrs golff naw twll Rhaeadr.

• I’R LLWYBR •

Bwthyn Du

Llwybr technegol anodd o 30 cilomedr â dringfeydd mawr gan gynnwys Cwm Elan a Dyffryn Claerwen â’u golygfeydd godidog.

• I’R LLWYBR •

Elan Epig

Pam dewis un llwybr yn unig pan allwch chi eu dilyn nhw i gyd? Mae’r llwybr anodd hwn yn cynnwys popeth sydd gan Gwm Elan i’w gynnig i feicwyr mynydd.

• I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU