Uchder – 36m
Hyd – 156m
Cyfaint – 9222 megalitr
Craig Goch yw’r “argae uchaf”. Hwn oedd lleoliad y seremoni agoriadol ar 21 Gorffennaf 1904, pan ddaeth y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra i agor y cynllun yn swyddogol. Roedd bwydlen y seremoni’n cynnwys Medaliynau Sofliar à la Royale, Cig Oen Oer a Galantîn Cyw Iâr a Chloron.
Yn y 1970au, roedd yna gynlluniau i gynyddu uchder Craig Goch yn sylweddol, gan adeiladu ‘argae uchel’ arall a fyddai wedi creu’r llyn mwyaf o waith dyn yn Ewrop gyda goblygiadau sylweddol i ecoleg yr ardal. Byddai hyn wedi bod dros ddwywaith uchder yr argae cyfredol, a byddai wedi gorchuddio’r ddaear yr holl ffordd i ffordd mynydd Aberystwyth. Claddwyd y cynllun ym 1974 yn sgil newid yn y Llywodraeth.
Taith gerdded tair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.
• MANYLION PELLACH •