Pen y Garreg - Elan Valley - Welsh Water

Argae

Pen y Garreg

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Pen y Garreg


Uchder – 37m

Hyd – 161m

Cyfaint – 6055 megalitr


Pen y Garreg yw’r lleiaf o’r argaeau a’r cronfeydd dŵr. Pan fo’n llawn, mae’n dal storfeydd dŵr digonol i gyflenwi Birmingham am bythefnos. Adeiladwyd y tŵr yn arddull Baróc Birmingham. Eustace Tickell oedd prif beiriannydd argae Pen y Garreg a bu’n byw gerllaw yn ystod naw mlynedd y gwaith adeiladu (1895 – 1904).

Mae sawl rhywogaeth o goed yn y coedwigoedd sy’n amgylchynu Pen y Garreg, gan gynnwys Coed Derw Digoes Iwerydd, sy’n bwysig i nifer o fathau o blanhigion is. Gerllaw mae cerfluniau prydferth mewn hen fonion coed y bu angen eu dymchwel oherwydd afiechyd. Mae llawer o’r llwybrau cerdded yn y goedwig yn dilyn hen lwybrau cangen a seidins y rheilffordd.

Gallwch gynnal priodas sifil y tu fewn i’r tŵr canolog (neu fynd am dro trwy’r argae ar un o’n diwrnodau agored yr argae).



Gweithgareddau cyfagos


Llwybr Gwyrdd Penbont

Llwybr byr (15km) cymedrol sy’n mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban Coch, ac a ddylai gymryd tuag awr i’w gwblhau.

• MANYLION PELLACH •

Llwybr Porffor Penbont

Llwybr byr (15km) cymedrol sy’n mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban Coch, ac a ddylai gymryd tuag awr i’w gwblhau.

• MANYLION PELLACH •

Llwybr Cwm Elan

Taith gerdded tair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.

• MANYLION PELLACH •

Cylch y Garreg Ddu

Mae’r llwybr cylchol tair awr yma, un o deithiau cerdded mwyaf poblogaidd Cwm Elan, yn mynd ag ymwelwyr o gwmpas cylch y Garreg Ddu trwy goedwigoedd a chaeau bendigedig.

• MANYLION PELLACH •

Yr Argaeau Eraill


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU