Garreg Ddu - Elan Valley - Welsh Water

Argae

Garreg Ddu

Cwm Elan

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Garreg Ddu


Uchder (yr argae suddedig) – 20m

Hyd – 180m


Dim ond pan fo lefelau dŵr yn y gronfa’n isel y gellir gweld yr argae suddedig. Mae dau bwrpas i’r Garreg Ddu: sef neilltuo dŵr i fynd i Dŵr y Foel, a darparu mynediad i gwm Claerwen. Tŵr y Foel yw’r fan lle mae dŵr yfed yn cael ei godi ar ddechrau ei siwrnai tridiau o hyd i Birmingham.

Roedd Tŷ Cwm Elan yn arfer sefyll ar y lan gyferbyn â’r Garreg Ddu. Mr Thomas Grove, ewythr Percy Bysshe Shelley oedd perchennog y tŷ. Cafodd Tŷ Cwm Elan, Tŷ Nantgwyllt a Thŷ Dol y Mynach oll eu dymchwel, gan adael dim ond ambell i wal o’r ardd yn sefyll.



Gweithgareddau cyfagos


Llwybr Beicio Cylch y Caban

Llwybr byr (15km) cymedrol sy’n mynd â chi o amgylch cronfa ddŵr Caban Coch, ac a ddylai gymryd tuag awr i’w gwblhau.

• MANYLION PELLACH •

Llwybr Cwm Elan

Taith gerdded tair awr o hyd o’r Ganolfan Ymwelwyr i Graig Goch yn dilyn llinell hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham.

• MANYLION PELLACH •

Cylch y Garreg Ddu

Mae’r llwybr cylchol tair awr yma, un o deithiau cerdded mwyaf poblogaidd Cwm Elan, yn mynd ag ymwelwyr o gwmpas cylch y Garreg Ddu trwy goedwigoedd a chaeau bendigedig.

• MANYLION PELLACH •

Yr Argaeau Eraill


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU